Cyllid Awdurdodau Lleol ar gyfer Gwasanaethau Trydydd Sector
Bu Archwilydd Cyffredinol Cymru yn
adolygu'r modd y mae awdurdodau lleol yn defnyddio'r trydydd sector a'i
ddefnyddio'n effeithiol at hynny, a daeth i'r casgliad bod angen iddynt wneud
mwy i sicrhau bod y gwaith y maent yn ei gynnal ar hyn o bryd yn dal i warantu
gwerth am arian, fel y nodwyd yn ei adroddiad a gyhoeddwyd fis Ionawr 2017.
Yn y blynyddoedd diwethaf, bu'n
rhaid i awdurdodau lleol ganfod ffyrdd newydd o gynnal gwasanaethau yn wyneb
toriadau mewn arian cyhoeddus ac, o'r herwydd, bu'n rhaid iddynt gynyddu'r
cyllid a roddir i ddarparwyr eraill, yn arbennig yn y trydydd sector, er mwyn
iddynt gynnig gwasanaethau hanfodol.
Nododd yr adroddiad fod gwaith y
trydydd sector gydag awdurdodau lleol yn cynyddu. Fodd bynnag, er gwaethaf y
cynnydd hwn, mae anghysonderau o ran trefniadau cyllido awdurdodau lleol ar
gyfer y trydydd sector yn ei gwneud yn anodd dangos gwerth am arian o'r
buddsoddiad ychwanegol hwn. Mae'r adroddiad yn pwysleisio'r angen i awdurdodau
ddatblygu gwell sail i gyfiawnhau eu partneriaeth â'r sector, gan fod yn eglur
ynghylch y modd y mae'r partneriaethau hyn o gymorth wrth ddarparu ar gyfer eu
blaenoriaethau corfforaethol. Mae'r adroddiad hefyd yn asesu pa mor effeithlon
ac effeithiol yw trefniadau cyllido awdurdodau lleol ar gyfer sefydliadau yn y
trydydd sector. Mae systemau a threfniadau gwael ar gyfer cynnig a dyrannu
arian yn y trydydd sector ar hyn o bryd yn pwyso'n drwm ar sefydliadau.
Trafododd a nododd y
Pwyllgor y canfyddiadau yn yr adroddiad
a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2017.
Math o fusnes: Arall
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 26/01/2017
Dogfennau