Dadl ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau
NDM6222 Suzy Davies
(Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil yn ymwneud â sgiliau achub
bywyd.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:
a) creu hawl statudol i bobl gael addysg a hyfforddiant
sgiliau achub bywyd sy'n briodol i'w hoedran ar amrywiol adegau yn eu bywydau
b) llunio cyfrifoldebau statudol i sicrhau:
i) bod hyfforddiant sgiliau achub bywyd yn cael ei
ddarparu;
ii) bod diffibrilwyr yn cael eu darparu mewn lleoliadau
priodol;
iii) bod unigolion sydd wedi cael hyfforddiant achub
bywyd ar gael mewn swyddi allweddol mewn gwasanaethau cyhoeddus (yn hytrach na
pherson cymorth cyntaf penodedig); a
iv) bod deunyddiau cymorth cyntaf sylfaenol ar gael i'r
cyhoedd mewn adeiladau cyhoeddus, ac nid ar gyfer y staff yn unig.
c) creu ffyrdd o wella a gorfodi o ran yr uchod.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 02/02/2017