Ymchwiliad i dlodi yng Nghymru: Cymunedau yn Gyntaf – yr hyn a ddysgwyd
Ymchwiliad i dlodi yng Nghymru: Cymunedau yn Gyntaf – yr hyn a ddysgwyd
Inquiry5
Cytunodd y
Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i gynnal tri ymchwiliad
i dlodi yng Nghymru.
Darn byr o waith
yn canolbwyntio ar Cymunedau yn Gyntaf oedd yr ail ffrwd waith. Bwriad y
Pwyllgor oedd i’r gwaith hwn helpu i lunio polisi'r dyfodol a'r trefniadau
trosiannol wrth i'r rhaglen ddirwyn i ben, a hynny drwy adolygu'r hyn a oedd
wedi gweithio'n effeithiol.
Cylch gorchwyl
Roedd y cylch
gorchwyl yn cynnwys ystyried y canlynol:
- beth a fu’n llwyddiant a beth na fu’n llwyddiant i’r
rhaglen Cymunedau yn Gyntaf;
- sut y bydd awdurdodau lleol yn penderfynu pa
brosiectau a fydd yn parhau i dderbyn cyllid ar ôl mis Mehefin 2017; a
- sut y bydd gwahanol raglenni lleihau tlodi (Cymunedau
am Waith, Esgyn, Dechrau’n Deg, ac ati) yn newid ar ôl i Gymunedau yn
Gyntaf ddod i ben.
Casglu tystiolaeth
Fel rhan o’i
waith yn casglu tystiolaeth, cynhaliodd y Pwyllgor ystod o sesiynau tystiolaeth
lafar ynghyd ag ymgynghoriad.
Gellir gweld amserlen o’r dystiolaeth lafar isod.
Adroddiad
Cyhoeddodd y Pwyllgor ei ganfyddiadau
cychwynnol ar 25 Gorffennaf 2017. Gwnaeth hynny i alluogi'r Pwyllgor i lunio
a chyhoeddi'r canfyddiadau cyn gynted â phosibl.
Cyhoeddodd y Pwyllgor yr adroddiad llawn: Cymunedau
yn Gyntaf – yr hyn a ddysgwyd ar 18 Hydref 2017.
Cyhoeddwyd ymateb
Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ym mis Hydref 2017. Cafwyd dadl ar yr adroddiad
ac ymateb y Llywodraeth yn y Cyfarfod Llawn ar 25 Hydref 2017.
Mae’r ffrydiau eraill o waith y Pwyllgor sy'n ymwneud â thlodi ar gael yma
ac yma.
Cadw mewn
cysylltiad
Os hoffech wybod
rhagor am waith y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, ewch
i’w dudalen
hafan, dilynwch ei gyfrif
Twitter neu cysylltwch â'r tîm sy'n cynorthwyo'r Pwyllgor yn SeneddCymunedau@cynulliad.cymru
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 19/01/2017
Dogfennau
- Yr amserlen o ran tystiolaeth lafar PDF 199 KB Gweld fel HTML (1) 14 KB
- Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith (17 Ionawr 2017) PDF 1016 KB
- Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant (27 Mawrth 2017) PDF 247 KB
- Goheniaeth gyda Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant (Mai 2017 ) PDF 205 KB
- Llythyr gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes (11 Gorffennaf 2017)
- Llythyr gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth (12 Gorffennaf 2017)
- Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant (12 Gorffennaf 2017)
- Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith (17 Gorffenaff 2017) PDF 252 KB
- Adroddiad
- Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes mewn perthynas â Chymunedau yn Gyntaf - y gwersi a ddysgwyd (Gorffennaf 2017) PDF 2 MB
- Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg mewn perthynas â Chymunedau yn Gyntaf - y gwersi a ddysgwyd (24 Gorffennaf 2017) PDF 493 KB
- Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg mewn perthynas â Chymunedau yn Gyntaf - y gwersi a ddysgwyd (8 Awst 2017) PDF 451 KB
- Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch Cymunedau yn Gyntaf – yr hyn a ddysgwyd (23 Hydref2017)
- Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus (15 Mai 2018) PDF 93 KB
- Llythyr at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (15 Mai 2018) PDF 89 KB
- Llythyr gan Ysgrifenydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus (18 Mehefin 2018) PDF 398 KB
Ymgynghoriadau
- Ymchwiliad i dlodi yng Nghymru: Cymunedau yn Gyntaf – yr hyn a ddysgwyd (Wedi ei gyflawni)