Ymchwiliad i ddylanwadu ar y broses o foderneiddio polisi caffael Ewrop

Ymchwiliad i ddylanwadu ar y broses o foderneiddio polisi caffael Ewrop

Ar ôl i’r Comisiwn Ewropeaidd gyhoeddi ei gynigion ar gyfer diwygio deddfwriaeth ynghylch caffael cyhoeddus ym mis Rhagfyr 2011, bu’r grŵp gorchwyl a gorffen yn trafod sut y gallai'r newidiadau arfaethedig hyn effeithio ar gaffael cyhoeddus yng Nghymru a sut y gallent fynd i'r afael â materion fel:

 

  • cynyddu nifer y busnesau bach a chanolig, gan gynnwys mentrau cymdeithasol, sy’n ymgysylltu â’r maes caffael cyhoeddus;
  • defnyddio caffael cyhoeddus i ddiwallu amcanion polisi eraill, fel polisïau cymdeithasol ac amgylcheddol;
  • cymhlethdodau a hyblygrwydd y system gaffael gyhoeddus.

 

Roedd y Pwyllgor wedi gwahoddi sylwadau ar y materion canlynol:

 

  • pa mor effeithiol yw’r rheoliadau caffael presennol o ran y modd y maent yn cael eu gweithredu yng Nghymru, a hynny o safbwynt cyflenwyr/contractwyr ac o safbwynt awdurdodau prynu?
  • sut y byddai’r newidiadau arfaethedig i Gyfarwyddebau perthnasol yr UE yn effeithio ar y broses caffael cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys y materion a ganlyn:

· ymgysylltiad busnesau bach a chanolig (gan gynnwys mentrau cymdeithasol) yn y broses caffael cyhoeddus;

· defnyddio caffael cyhoeddus i ddiwallu amcanion polisi eraill (fel polisïau cymdeithasol ac amgylcheddol);

· cymhlethdodau a hyblygrwydd rheolau caffael presennol;

· gwerth am arian i’r awdurdod prynu?

  • sut ddylid moderneiddio cyfarwyddebau caffael yr UE a’r rheoliadau gweithredu a’r codau ymarfer yng Nghymru, er mwyn cwrdd ag anghenion cyflenwyr/contractwyr ac awdurdodau prynu Cymreig, ac er mwyn gwneud y mwyaf o gapasiti cwmnïau Cymreig i gwrdd â’r heriau sydd ynghlwm â rheolau caffael?  Yn benodol, sut ddylid ail-lunio rheoliadau a/neu ganllawiau ar gyfer contractau nad ydynt yn cyrraedd y trothwyon caffael a bennir gan gyfarwyddebau’r UE?

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Cyhoeddwyd gyntaf: 14/04/2016

Dogfennau