P-05-729 Cael Gwared ar Gyfyngiadau Cyflymder ar yr M4 wrth Dwnelau Bryn-glas
P-05-729 Cael Gwared ar Gyfyngiadau Cyflymder ar yr M4 wrth Dwnelau Bryn-glas
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Andrew Lewis ar ôl
casglu 15 llofnod.
Geiriad y ddeiseb
Bu cyfyngiadau cyflymder yn nhwnelau Bryn-glas
ac o'u cwmpas ar gerbytffyrdd tua'r dwyrain a thua'r gorllewin ar yr M4 ers
2011, ac maent yn achosi diflastod i fodurwyr di-rif bob dydd. Cynigir y dylid
tynnu'r holl gyfyngiadau cyflymder yn yr ardal hon a dychwelyd at y terfyn
cyflymder cenedlaethol i gyfeiriad y dwyrain a'r gorllewin.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 07/03/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r
ddeiseb ac, wrth wneud hynny, ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr
Economi a Seilwaith i ofyn iddo roi gwybod i'r Pwyllgor am ganfyddiadau'r
adolygiad arfaethedig ar ôl i 12 mis o ddata gael eu casglu o orfodi'r Terfyn
Cyflymder Newidiol.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Etholaeth
a Rhanbarth y Cynulliad
·
Caerffili
·
Dwyrain De Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 14/12/2016