Llywodraethiant yn y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd
Cynhaliodd y Pwyllgor
Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol* ymchwiliad i waith
rhyng-sefydliadol er mwyn:
- Llunio egwyddorion arfer gorau ar gyfer dulliau o weithio rhwng
sefydliadau ar gyfer deddfwriaeth gyfansoddiadol.
- Ystyried gwaith deddfwrfeydd eraill o ran eu dulliau o weithio rhwng
sefydliadau ac adeiladau arno pan fo'n ymwneud â meysydd polisi ehangach.
- Ceisio, sefydlu a hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer dulliau o weithio rhwng
seneddau, gan gynnwys hyrwyddo'r broses o ymgysylltu â dinasyddion.
Yn ystod yr ymchwiliad, penderfynodd y Pwyllgor newid
enw’r ymchwiliad o “Llais cryfach i
Gymru: ymgysylltu â San Steffan a’r sefydliadau datganoledig” oherwydd
natur newidiol ei waith a phenderfyniad y DU i ymadael â’r UE.
Bydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar ddwy ffrwd:
Ffrwd
I: Materion cyfansoddiadol
Adolygu sut y mae cysylltiadau rhyng-sefydliadol wedi
dylanwadu ar ddatblygiad datganoli yng Nghymru ers 1998. Bydd hyn yn ystyried y
canlynol:
- Sut y mae dulliau rhyng-lywodraethol wedi effeithio ar ddatblygiad y
setliad datganoli.
- Sut y mae cysylltiadau rhyng-lywodraethol wedi datblygu ac esblygu, yr
hyn a oedd yn llwyddiannus, a sut y mae'r cysylltiadau hyn wedi effeithio
ar y setliad datganoli.
- Sut y mae cysylltiadau rhyng-seneddol wedi esblygu, cyflwr presennol y
cysylltiadau hyn, a sut y gellid eu datblygu ymhellach o ran y gwaith o
ddatblygu deddfwriaeth gyfansoddiadol a chraffu arni.
Ffrwd
II: Materion polisi
Drwy adeiladu ar y gwaith a wnaed eisoes ar draws y DU er
mwyn archwilio ymhellach o fewn y cyd-destun Cymreig:
- Natur y cysylltiadau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU,
sut y mae'r cysylltiadau hyn yn
gweithredu a sut y gellir eu gwella.
- Gwella cyfleoedd i lywodraethau a seneddau ddysgu am bolisïau ar y
cyd.
- Arfer gorau o ran cysylltiadau rhyng-sefydliadol ar draws y DU y
gellid ei ddefnyddio yn y cyd-destun Cymreig.
- Natur y cysylltiad rhwng deddfwrfa Cymru a deddfwrfa'r DU a chanfod
cyfleoedd i seneddau weithio'n fwy effeithiol â'i gilydd.
- Cynnwys unrhyw faterion eraill sy'n ymwneud â chysylltiadau
rhyng-sefydliadol, gan gynnwys y goblygiadau perthnasol sy'n deillio o'r
ffaith bod y DU yn gadael yr UE.
Casglu
tystiolaeth
Lansiodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i geisio
eich barn am y mater hwn. Y dyddiad olaf ar gyfer ymateb yw 5 Mehefin 2017.
Ysgrifennodd y Pwyllgor at
Gadeirydd pob un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol i ofyn eu barn ynglŷn
â sut i wella trefniadau gweithio rhyngseneddol.
Hynt yr ymchwiliad
Mae’r tabl canlynol yn nodi dyddiadau a chynnwys y
sesiynau tystiolaeth yn ystod yr ymchwiliad:
Sesiwn Dystiolaeth |
Dyddiad, Agenda a Cofnodion |
Trawsgrifiad |
Trawsgrifiad |
1. Y Gwir Anrh. Arglwydd Murphy o Dorfaen |
|||
2. Syr Paul Silk |
|||
3. Y Farwnes Randerson |
|||
4. Y
Gwir Anh. Elfyn Llwyd |
|||
5. Y Gwir Anh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru |
|||
6. Ieuan Wyn Jones |
|||
7. Y Gwir Anrh.
Arglwydd Hain |
|||
8. Y Gwir Anh, Rhodri Morgan |
|||
9. Syr Derek Jones |
|||
10. Yr Athro Paul Cairney |
|||
Sesiwn Rhanddeiliaid |
|||
11. Elin Jones AC, Llywydd |
|||
12. Y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns AS, Ysgrifennydd
Gwladol Cymru |
|||
13. Philip Rycroft CB, Ysgrifennydd Parhaol, Yr Adran
ar gyfer Gadael yr Undeb Ewropeaidd |
Cyhoeddodd y
Pwyllgor ei
adroddiad (PDF, 1012KB) ym mis Tachwedd 2018. Trafodwyd yr adroddiad ac
ymateb y Llywodraeth yn y Cyfarfod
Llawn ar 28 Chwefror 2018.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 15/12/2016
Dogfennau
- Adroddiadau
- Adroddiad (PDF, 1012KB) - 2 Chwefror 2018
- Adroddiad - Crynodeb o’r dystiolaeth (PDF 1MB) - Mai 2018
- Adroddiad - Y Panel Dinasyddion (PDF 4MB) - Mai 2018
- Adroddiad - Cytundeb cysylltiadau rhyngsefydliadol rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru (PDF 223KB) - Ionawr 2019
- Llythyr gan y Prif Weinidog at y Llywydd: Rhwymedigaethau rhyngwladol sy'n clymu'r Deyrnas Unedig - 3 Gorffennaf 2019
- Llythyr gan y Gwir Anrhydeddus David Lidington AS at Bruce Crawford ASA: Craffu seneddol ar gysylltiadau rhynglywodraethol a fframweithiau cyffredin - 11 Mehefin 2019
- Llythyr i Bruce Crawford ASA - 17 Mai 2019
PDF 225 KB Gweld fel HTML (8) 34 KB
- Llythyr gan Ganghellor Dugiaeth Caerhirfryn - 3 Mai 2019 (Saesneg yn unig)
- Llythyr at y Llywydd - 28 Mawrth 2019
PDF 86 KB
- Llythyr gan Bruce Crawford ASA - 26 Mawrth 2019 (Saesneg yn unig)
PDF 173 KB Gweld fel HTML (11) 42 KB
- Llythyr oddi wrth y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol at yr Arglwydd Boswell – 12 Chwefror 2019 (Saesneg yn unig)
PDF 386 KB
- Llythyr at yr Arglwydd Boswell - 11 Chwefror 2019 (Saesneg yn unig)
PDF 90 KB
- Cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru - Ionawr 2019
PDF 144 KB
- Llythyr gan y Llywydd - 20 Mehefin 2018
PDF 235 KB
- Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid - Llywodraethiant yn y DU ar ôl Brexit – cysylltiadau rhynglywodraethol, 25 Mai 2018
PDF 205 KB
- Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid - 24 Mai 2018
PDF 272 KB
- Llythyr gan Chloe Smith AS, Ysgrifennydd Seneddol (Gweinidog dros y Cyfansoddiad) - 10 Mai 2018 (Saesneg yn unig)
PDF 221 KB
- Llythyr at Chloe Smith AS, Ysgrifennydd Seneddol (Gweinidog dros y Cyfansoddiad) - 26 Ebrill 2018 (Saesneg yn unig)
- Letter from the Llywydd - 22 March 2018
PDF 283 KB
- Llythyr gan y Prif Weinidog - 19 Chwefror 2018
- Datganiad i’r Wasg: Llywydd a Chadeirydd Pwyllgor yn dweud wrth un o Bwyllgorau San Steffan fod yn rhaid i lais Cymru gael ei glywed yn glir wrth i ni ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, gan alw am sefydlu Cynhadledd Llefaryddion – 5 Chwefror 2018 – 5 Chwefror 2018
- Llythyr gan y Prif Weinidog - 20 Tachwedd 2017
- Llythyr gan y Cadeirydd i’r Prif Weinidog - 23 Hydref 2017
- Ymateb oddi wrth Geth Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr, Adran Cyfansoddiad, Swyddfa Cymru ar ran Philip Rycroft, Ysgrifennydd Parhaol yn yr Adran Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd - 26 Hydref 2017
PDF 23 KB Gweld fel HTML (25) 3 KB
- Llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru - 5 Hydref 2017
PDF 38 KB
- Llythyr gan Cymdeithas Ddysgedig Cymru - Medi 2017 (Saesneg yn unig)
PDF 209 KB Gweld fel HTML (27) 13 KB
- Llythyr gan Academi Prydain – 25 Gorffennaf 2017 (Saesneg yn unig)
PDF 176 KB Gweld fel HTML (28) 15 KB
- Ymateb oddi wrth Yr Athro J P Bradbury, Prifysgol Abertawe - 4 Gorffennaf 2017 (Saesneg yn unig)
PDF 191 KB Gweld fel HTML (29) 17 KB
- Llythyr i Brifysgolion Cymraeg - 12 Mehefin 2017
PDF 352 KB
- Llythyr i Rhanddeiliaid - Mai 2017
PDF 356 KB Gweld fel HTML (31) 13 KB
- Ymated oddi wrth 'The Constitution Society' - 2 Gorffennaf 2017 (Saesneg yn unig)
PDF 25 KB Gweld fel HTML (32) 6 KB
- Inter-governmental relations written agreement between the Scottish Parliament and Scottish Government
PDF 177 KB Gweld fel HTML (33) 32 KB
- Llythyr i Bruce Crawford ASA - 6 Ebrill 2017 (Saesneg yn unig)
PDF 199 KB
- Llythyr gan yr Arweinydd, Cyngor Casnewydd - 21 Mawrth 2017 (Saesneg yn unig)
PDF 60 KB
- Llythyr i'r Arweinydd, Cyngor Casnewydd - 13 Mawrth 2017
PDF 127 KB
- Llythyr gan y Cadeirydd at David Rowlands AC, 7 Mawrth 2017
PDF 126 KB Gweld fel HTML (37) 17 KB
- Datganiad gan Gadeiryddd y Pwyllgor - Y Cyfarfod Llawn, 1 Mawrth 2017
- Datganiad gan Gadeiryddd y Pwyllgor - Y Cyfarfod Llawn, 1 Mawrth 2017 (Senedd TV)
- Llythyr gan y Pwyllgor at Gadeirydd pob un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol, 17 Ionawr 2017
PDF 143 KB Gweld fel HTML (40) 8 KB
- * Yn dilyn penderfyniad yn y Cyfarfod Llawn ar 29 Ionawr 2020, daeth y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.
Ymgynghoriadau
- Llais cryfach i Gymru: ymgysylltu â San Steffan a gwledydd datganoledig (Wedi ei gyflawni)