Diwygio Cyfansoddiadol
Mae Deddf Cymru
2017 yn nodi dechrau cyfnod newydd o ddatganoli yng Nghymru. Mae’n rhoi pwerau
i’r Senedd dros feysydd polisi newydd, gan gynnwys maint y Senedd, ei system
etholiadol a'i drefniadau mewnol.
Y llynedd, cyhoeddodd y Panel
Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad adroddiad ar ei waith: Senedd
sy'n Gweithio i Gymru. Bu'r Panel yn ystyried capasiti'r Senedd i gyflawni ar
gyfer pobl Cymru, a daeth i'r casgliad fod y Senedd, gyda dim ond 60 Aelod, yn
rhy fach i gyflawni ei swyddogaethau'n effeithiol. Bu'r Panel yn ystyried hefyd
sut y dylid ethol yr Aelodau, a'r oedran pleidleisio isaf ar gyfer etholiadau'r
Senedd.
Ymgynghorodd Comisiwn y Senedd â phobl Cymru rhwng 12
Chwefror a 6 Ebrill 2018 ar argymhellion y Panel Arbenigol, a diwygiadau eraill
i drefniadau etholiadol a gweithredol y Senedd a allai wneud y sefydliad yn
ddeddfwrfa fwy hygyrch ac effeithiol.
Canlyniadau’r
ymgynghoriad
Cyhoeddwyd adroddiad llawn yr ymgynghoriad, yn ogystal ag
adroddiad cryno a fersiwn hawdd ei darllen. Mae rhagor o
wybodaeth ar gael ar brif dudalen diwygio'r Senedd.
Cofrestrwch i dderbyn diweddariadau e-bost am
waith diwygio Comisiwn y Senedd.
Math o fusnes:
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Comisiwn;
Cyhoeddwyd gyntaf: 12/02/2018
Ymgynghoriadau
- Creu Senedd i Gymru (Wedi ei gyflawni)