Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Addysg Uwch ac Ymchwil
Cafodd y Bil Addysg Uwch ac Ymchwil ei gyflwyno yn Nhŷ’r
Cyffredin ar 19 Mai 2016. Bil Llywodraeth y DU ydoedd, ac fe’i noddwyd gan yr
Adran dros Addysg. Roedd y Bil yn ymwneud ag addysg uwch ac ymchwil, ac roedd
yn gwneud darpariaeth ynghylch taliadau amgen i fyfyrwyr mewn addysg uwch neu
addysg bellach.
Roedd y Bil yn ddarostyngedig
i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol
Sefydlog 29. Dilynir y broses hon mewn
achosion lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad Senedd
Cymru i ddeddfu ar fater a allai
ddod o fewn cymhwysedd y Senedd fel arfer.
Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Addysg Uwch ac Ymchwil (PDF, 165KB) ar 17 Tachwedd 2016. Ar 22 Tachwedd
2016, cafodd y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol hwn ei gyfeirio
gan y Pwyllgor Busnes (PDF, 51KB) at y Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i'w drafod. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno
adroddiad arno oedd 12 Ionawr 2017. Gosodwyd Memorandwm
diwygiedig (PDF, 169KB) gan Lywodraeth
Cymru ar 1 Rhagfyr 2016. Cyhoeddodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ei adroddiad
ar y Memorandwm diwygiedig (PDF, 589KB) ar 12 Ionawr 2017.
Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol atodol mewn perthynas â'r Bil Addysg Uwch ac
Ymchwil (PDF, 101KB) ar 5 Ionawr 2017.
Ar 10 Ionawr 2017, cafodd y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol hwn ei gyfeirio
gan y Pwyllgor Busnes (PDF, 51KB) at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i'w drafod. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno
adroddiad arno oedd 9 Chwefror 2017. Cyhoeddodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac
Addysg ei adroddiad
ar y Memorandwm atodol ar 9 Chwefror 2017.
Cytunwyd ar y Cynnig Cydsyniad
Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Addysg Uwch ac Ymchwil yn y Cyfarfod Llawn
ar 14 Chwefror 2017.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 18/11/2016
Dogfennau
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – 21 Mawrth 2017
PDF 102 KB
- Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol - Y Bil Addysg Uwch ac Ymchwil - 17 Tachwedd 2016 (PDF, 162KB)
- Yr amserlen ar gyfer ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Addysg Uwch ac Ymchwil - 23 Tachwedd 2016 (PDF, 371KB)
- Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Diwygiedig - Y Bil Addysg Uwch ac Ymchwil - 1 Rhagfyr 2016 (PDF, 167KB)
- Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Addysg Uwch ac Ymchwil - 12 Ionawr 2017 (PDF, 587KB)
- Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 2) - Y Bil Addysg Uwch ac Ymchwil - 5 Ionawr 2017 (PDF, 99KB)
- Yr amserlen ar gyfer ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 2) ar gyfer y Bil Addysg Uwch ac Ymchwil - 10 Ionawr 2017 (PDF, 52KB)