NDM6171 - Dadl Plaid Cymru
NDM6171 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at y bwlch rhwng y gweithwyr a gaiff y
cyflog uchaf a'r gweithwyr a gaiff y cyflog isaf yn awdurdodau lleol Cymru a'r
sector cyhoeddus ehangach.
2. Yn nodi llwyddiant Plaid Cymru o ran gorfodi
Llywodraeth Cymru i ddiwygio'r Ddeddf Democratiaeth Leol yn ystod y Pedwerydd
Cynulliad i gynnwys mesurau sydd wedi gwella tryloywder o ran sut y penderfynir
ar gyflog uwch swyddogion drwy sefydlu panelau taliadau annibynnol.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
(a) deddfu i gyflwyno cyfres o gyfraddau, telerau ac
amodau cyflog a gaiff eu penderfynu'n genedlaethol, i reoli cyflogau uwch
swyddogion a phrif swyddogion drwy fframwaith cenedlaethol a fyddai'n sicrhau
tegwch i bob gweithiwr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru; a
(b) diffinio rôl prif weithredwyr awdurdodau lleol mewn
deddfwriaeth a fyddai'n cynnwys diddymu taliadau ychwanegol i swyddogion
cynghorau ar gyfer dyletswyddau swyddog canlyniadau.
'Deddf
Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013'
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 17/11/2016
Angen Penderfyniad: 23 Tach 2016 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Rhun ap Iorwerth AS