NDM6170 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM6170 Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod y diwydiant manwerthu yn cyflogi
130,000 o bobl yng Nghymru, ac yn gwneud cyfraniad allweddol i economi Cymru.
2. Yn nodi mai cyfradd y siopau gwag yng Nghymru yw 14 y
cant, a bod cyfradd arfaethedig y siopau a fydd yn cau yn uwch yng Nghymru nag
yn unman arall yn y DU dros y ddwy flynedd nesaf.
3. Yn gresynu nad yw Llywodraeth Cymru wedi defnyddio
mesurau arloesol a chefnogol i gynorthwyo busnesau wrth bontio i
drefniadau ailbrisio Asiantaeth y Swyddfa Brisio, gan adael busnesau
Cymru i wynebu ardrethi uchel, ynghyd â system o ad-daliadau dros dro, a
phroses araf o apeliadau.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) dileu ardrethi busnes ar gyfer pob busnes sydd â
gwerth ardrethol o hyd at £12,000, a rhoi cymorth sy'n lleihau'n raddol i'r
rhai sydd â gwerth ardrethol o hyd at £15,000;
b) gweithredu ffordd ryngweithiol o ddiwygio'r system
ardrethi busnes hynafol mewn ffordd radical, a gwneud Cymru yn genedl flaengar
o ran mynd i'r afael â'r angen i ddarparu amgylchedd busnes mwy cefnogol; ac
c) rhoi cap ar unwaith ar y lluosydd, a chynllun wedi'i
amserlennu ar gyfer gostyngiad graddol mewn ardrethi.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 17/11/2016
Angen Penderfyniad: 23 Tach 2016 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Paul Davies AS