P-05-728 Diogelu Cyllid Teuluoedd yn Gyntaf
P-05-728 Diogelu Cyllid Teuluoedd yn Gyntaf
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Whitehead-Ross Education and
Cangen Cyngor Bwrdeistref Sirol UNSAIN Castell Nedd Port Talbot ar ôl casglu 24
llofnod.
Geiriad
y ddeiseb
Rydym yn galw ar
Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddiogelu cyllideb y
rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf er mwyn amddiffyn y teuluoedd sydd fwyaf agored i
niwed ledled Cymru, gan gynnwys yn ein hardal ni, Castell-nedd Port Talbot.
Caiff y rhaglen arloesi, Teuluoedd yn Gyntaf, ei hariannu
gan Lywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo i ddatblygu systemau a chymorth
amlasiantaeth effeithiol o fewn awdurdodau lleol, gyda phwyslais clir ar
ymyrraeth gynnar ac atal niwed i deuluoedd, yn enwedig i'r rheini sy'n dlawd.
Ddiwedd mis Awst, ysgrifennodd Ysgrifennydd y Cabinet
dros Gymunedau lythyr at sylw awdurdodau lleol ynghylch dyfodol Teuluoedd yn
Gyntaf, sy'n dod i ben ym mis Mawrth 2017. Yn ei lythyr, amlinellodd y
blaenoriaethau wrth fynd i'r afael â bylchau o ran darpariaeth gwasanaethau ar
gyfer rhieni a phobl ifanc yn y dyfodol, gan gysylltu gwaith y rhaglen â'r dull
o atal profiadau niweidiol i blant.
Disgwylir i Ysgrifennydd y Cabinet wneud datganiad
ffurfiol ar ddyfodol y rhaglen yn yr hydref, ac ni cheir gwybod sut y caiff y
gyllideb ei dyrannu ar gyfer pob awdurdod lleol tan ddiwedd Rhagfyr 2016. Â'r
rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn dod i ben ym mis Mawrth 2017, dyma gryfhau'r
achos i'r rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf gael ei diogelu.
Yn y flwyddyn lawn gyntaf o weithredu'r rhaglen,
defnyddiwyd y cynllun 'Teulu'n Flaenaf' yng Nghastell-nedd Port Talbot i
gynorthwyo bron i 100 o deuluoedd i wneud newidiadau cadarnhaol i'w bywydau a
mynd i'r afael â materion cyn iddi fynd yn rhy hwyr, trwy ymyrraeth gynnar ac
atal niwed. Mae'r Llywodraeth yn amcangyfrif y gall un teulu mewn trafferthion
gostio oddeutu £75,000 y flwyddyn i'r trethdalwr, felly gellir cyfrifo gwerth o
£3.32 am bob £1 a wariwyd gan arbed dros £7.3 miliwn i'r economi.
Cwtogodd Llywodraeth Cymru'r grant ar gyfer Teuluoedd yn
Gyntaf yng Nghastell-nedd Port Talbot o £260,000 ar gyfer 2016/17, â grant o
£1,964,194. Defnyddiodd 2,586 o unigolion y gwasanaeth Teuluoedd yn Gyntaf yn
ystod 2015-16 yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 17/01/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i
chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor sylwadau gan y
deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb ar y sail y bydd y gyllideb ar gyfer
Teuluoedd yn Gyntaf yn cael ei chynnal ar gyfer 2017-2018.
Etholaeth
a Rhanbarth y Cynulliad
• Aberafan
• Gorllewin
De Cymru
Further
information
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 15/11/2016