Yr Ardoll Brentisiaethau yng Nghymru
Mae Pwyllgor yr
Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi cynnal ymchwiliad i’r Ardoll
Brentisiaethau.
Crynodeb
Nod yr ymchwiliad oedd clywed barn cyflogwyr am effaith Ardoll
Brentisiaethau'r DU, i nodi unrhyw faterion trawsffiniol ac i ystyried adwaith
cyflogwyr a rhanddeiliaid i ymateb
y Gweinidog dros Sgiliau a Gwyddoniaeth i'r ardoll ac ariannu
prentisiaethau yng Nghymru.
Cefndir
Mae disgwyl i Ardoll Brentisiaethau'r DU, sy'n ardoll
Llywodraeth y DU, ddod i rym ar 6 Ebrill 2017. Bydd pob cyflogwr (cyhoeddus a
phreifat) sydd â bil cyflog o fwy na £3 miliwn y flwyddyn yn talu'r ardoll. Mae
cyfradd yr ardoll yn 0.5% o fil cyflog y cyflogwr yn seiliedig ar gyfanswm enillion
y gweithwyr heb gynnwys taliadau, fel buddion mewn nwyddau. Bydd cyflogwyr yn
derbyn lwfans ardoll o £15,000 y flwyddyn i'w osod yn erbyn yr ardoll a delir i
Gyllid a Thollau EM drwy'r cynllun talu wrth ennill.
Ystyriodd y Pwyllgor y materion canlynol:
- Beth yw'r goblygiadau o ran cyflwyno Ardoll
Brentisiaethau'r DU i gyflogwyr yng Nghymru?
- A fydd goblygiadau gwahanol i gyflogwyr yn y sector
cyhoeddus a chyflogwyr yn y sector preifat?
- A oes goblygiadau penodol i gyflogwyr sy'n
gweithredu yng Nghymru a ledled y DU (nad ydych wedi cyfeirio atynt yn
eich ymateb yn barod)?
- Os oes gennych bryderon am ariannu prentisiaethau ar
ôl cyflwyno ardoll y DU, beth hoffech chi i Lywodraeth Cymru ei wneud i
ymdrin â'ch pryderon?
- Beth, os unrhyw beth, yw'r materion sy'n ymwneud â
materion cyllid a pholisi trawsffiniol sy'n codi o gyflwyno'r Ardoll
Brentisiaethau (nad ydych wedi cyfeirio atynt yn eich ymateb yn barod)?
- A oes gennych unrhyw farn ynghylch sut mae
Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu â chyflogwyr o ran yr Ardoll
Brentisiaethau?
- A oes gennych unrhyw sylwadau cyffredinol neu
bryderon ynghylch y system
bresennol o ran ariannu prentisiaethau yng Nghymru? Beth ddylai
Llywodraeth Cymru ei wneud i fynd i'r afael â phryderon yr ydych wedi eu
nodi?
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 10/11/2016
Dogfennau
- 01 Centrica (Saesneg yn unig)
PDF 244 KB
- 02 Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu
PDF 137 KB Gweld fel HTML (2) 10 KB
- 03 Colegau Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 471 KB
- 04 Cynulliad Cenedlaethol Cymru
PDF 124 KB Gweld fel HTML (4) 21 KB
- 05 Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 116 KB Gweld fel HTML (5) 36 KB
- 06 Conffederasiwn GIG Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 315 KB Gweld fel HTML (6) 38 KB
- 07 Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 51 KB Gweld fel HTML (7) 23 KB
- 08 Consortiwm Manwerthu Cymru
PDF 326 KB
- 09 Y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth
- 10 Coleg Cambria (Saesneg yn unig)
PDF 119 KB Gweld fel HTML (10) 7 KB
- Adroddiad (PDF 887KB)
PDF 887 KB
- Ymateb Llywodraeth Cymru (PDF 411KB)
- Adroddiad y Pwyllgor: Yr ardoll Brentisiaethau yng Nghymru: flwyddyn ar - Awst 2018
PDF 1 MB