NDM6140 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM6140 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM6140 Paul Davies (Preseli Sir
Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y cyfraniad pwysig a gwerthfawr a wneir i
gymdeithas Cymru gan bobl hŷn.
2. Yn credu bod pobl hŷn yn haeddu urddas a pharch,
yn ogystal ag annibyniaeth a'r rhyddid i wneud penderfyniadau am eu bywydau eu
hunain.
3. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i roi
sicrwydd i bobl hŷn drwy roi cap ar gostau a diogelu £100,000 o asedion ar
gyfer y rhai sydd mewn gofal preswyl i sicrhau nad yw pobl yn colli eu cynilion
oes a'u cartrefi i gostau gofal.
4. Yn nodi canfyddiadau adroddiad ar ddementia a gafodd
ei gynhyrchu gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn tynnu sylw at yr anawsterau
a gaiff pobl sydd â dementia o ran cael gafael ar wybodaeth, cymorth a
gwasanaethau a all wneud gwahaniaeth mawr i'w bywydau.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
(a) Cyflwyno Bil Hawliau Pobl Hŷn, i ehangu a
hyrwyddo hawliau pobl hŷn;
(b) Rhoi dyletswydd ar gyrff y sector cyhoeddus i
ymgynghori â phobl hŷn wrth wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau;
ac
(c) Sicrhau mai Cymru yw'r genedl gyntaf yn y DU sy'n
ystyriol o ddementia.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 10/11/2016
Angen Penderfyniad: 16 Tach 2016 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Paul Davies AS