Strategaeth Economaidd i Gymru
Cyn bod Llywodraeth Cymru yn datblygu strategaeth
economaidd newydd ar gyfer Cymru yn ddiweddarach eleni, bydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystyried safbwyntiau gwahanol o ran yr hyn
y gallai ei chynnwys.
Bydd y Pwyllgor yn cynnal cyfres o seminarau thematig yn
ystod tymor y gwanwyn, a bydd yn gwahodd arbenigwyr amrywiol i fod yn
bresennol.
Bydd y seminar cyntaf yn ystyried rôl menywod yn yr
economi. Bydd sesiynau yn nes ymlaen yn edrych ar ansawdd gwaith, lleoedd, yr
amgylchedd a’r economi seiliol.
Cynhelir y seminarau yn y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol
Cymru, Bae Caerdydd. Nod y Pwyllgor yw ysgogi trafodaeth ehangach, a dylanwadu
ar syniadau Llywodraeth Cymru o ran eu Strategaeth Economaidd.
Math o fusnes: Busnes Cynnar
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/11/2016
Dogfennau