P-05-718 Cyflogau GIG Cymru
P-05-718 Cyflogau GIG Cymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Chris Neilsen ar ôl casglu 24 llofnod.
Geiriad y ddeiseb
Sut all hi fod yn iawn bod
gweithwyr y GIG yng Nghymru, sy’n gwneud swyddi angenrheidiol, yn ennill cyflog
mor isel â £7.80 yr awr pan fo Llywodraeth Cymru yn ariannu’r fath swyddi
di-ddim â Chomisiynydd y Dyfodol ar £100k y flwyddyn a Chomisiynydd y Gymraeg
ar £90k a nifer o swyddi newydd tebyg. Mae’r haenau newydd hyn o swyddi di-ddim
yn wirion a dylid eu diddymu a rhoi’r arian i staff y GIG sydd ar gyflogau
isel.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 23/05/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb oherwydd nid yw'n bosibl ei dwyn ymlaen
yn absenoldeb cyswllt â'r deisebydd.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 17/01/2017.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- Dwyrain Casnewydd
- Dwyrain De Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 21/10/2016