P-05-719 Cyllid gan Gynulliad Cymru ar gyfer Gwasanaethau
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Harry Hayfield ar ôl casglu
21 llofnod.
Geiriad
y ddeiseb
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar y Cynulliad
i gyllido gwasanaethau hanfodol yng Nghymru nad ydynt yn cael cyllid gan y
Llywodraeth (fel Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub a’r Gymdeithas
Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid).
Gwybodaeth
ychwanegol
Yn 2015, achubodd Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y
Badau Achub 9,763 o bobl o ddyfroedd y Deyrnas Unedig (gan gynnwys 1,029 o bobl
yn nyfroedd Cymru). Cafodd y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i
Anifeiliaid dros filiwn o alwadau i’w llinell gymorth ledled y DU yn 2015 a
sicrhaodd bron i 1,800 o euogfarnau ar gyfer creulondeb i anifeiliaid. Fodd
bynnag, nid yw’r sefydliadau hyn yn cael unrhyw gyllid gan Lywodraeth San
Steffan er eu bod yn gorfodi cyfreithiau Llywodraeth San Steffan.
Credaf fod hyn yn anghywir yn 2016, ac y dylai’r
sefydliadau datganoledig gyllido’r gwaith caled y mae’r sefydliadau hyn yn ei
wneud dros bobl Cymru.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 29/11/2016 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i
chwblhau.
Chytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb ar y sail nad yw’n swyddogaeth y
Pwyllgor i awgrymu wrth fudiadau’r trydydd sector eu bod yn ceisio arian gan
Lywodraeth Cymru.
Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y deisebydd yn awgrymu y gall fod
am ddangos llythyr Ysgrifennydd y Cabinet i unrhyw sefydliadau y mae’n teimlo a
fyddai’n elwa o gael gwybodaeth am ariannu gan Lywodraeth Cymru neu awdurdodau
lleol.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 29/11/2016.
Etholaeth
a Rhanbarth y Cynulliad
- Ceredigion
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 21/10/2016