NDM6128 Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig
NDM6128 Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig
NDM6128
Neil Hamilton
(Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Caroline Jones
(Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod
mis Tachwedd yn fis ymwybyddiaeth canser yr ysgyfaint.
2. Yn gresynu mai
dim ond 6.6 y cant o gleifion Cymru a gaiff ddiagnosis o ganser yr ysgyfaint
sydd yn dal yn fyw bum mlynedd ar ôl y diagnosis a bod Cymru yn llusgo y tu ôl
i weddill y DU ac Ewrop o ran cyfraddau goroesi canser.
3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
(a) gweithredu i
wella cyfraddau pum mlynedd goroesi canser yr ysgyfaint yng Nghymru;
(b) gwella
gwasanaethau diagnostig a chyflymu mynediad at brofion diagnostig;
(c) sicrhau
gwelliannau i ofal diwedd oes;
(d) sicrhau y
caiff anghenion, blaenoriaethau a dewisiadau unigol pobl ar gyfer gofal diwedd
oes eu canfod, eu cofnodi, eu hadolygu, eu parchu a'u gweithredu; ac
(e)
gwarantu y gall pawb sydd angen gwasanaethau gofal lliniarol arbenigol
gael gafael arnynt.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/11/2016
Angen Penderfyniad: 2 Tach 2016 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Neil Hamilton AS