Diogelwch Cymunedol yng Nghymru

Diogelwch Cymunedol yng Nghymru

Cynhaliodd Archwilydd Cyffredinol Cymru adolygiad a fu’n trafod effeithiolrwydd diogelwch cymunedol yng Nghymru. Yn ystod yr adolygiad hwn, cafodd effeithiolrwydd gweithio mewn partneriaeth, y modd y cafodd adnoddau eu defnyddio a gweithgarwch i wella eu hystyried, ac roedd yr adolygiad yn cynnwys Llywodraeth Cymru, y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd ac awdurdodau lleol. Hefyd, gwnaeth y gwaith dynnu ar farn dinasyddion ar ddiogelwch cymunedol ac effeithiolrwydd cyrff cyhoeddus wrth gadw pobl Cymru’n ddiogel.

 

Trafododd y Pwyllgor ganfyddiadau’r Adroddiad, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2016, ac ymatebodd i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru, ‘Diwygio llywodraeth leol: Cadernid ac adnewyddiad’.

 

Gwahoddodd y Pwyllgor sylwadau gan y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a ystyriwyd ym mis Ionawr 2017, ac edrychwyd eto ar y mater ar ôl cyhoeddi adolygiad Llywodraeth Cymru. Cafodd ‘Gweithio gyda’n Gilydd i Greu Cymunedau Mwy Diogel’, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2017, ei drafod yn y Pwyllgor ym mis Ionawr 2018.

 

Ym mis Tachwedd 2018, dderbyniodd y Pwyllgor cyfres o gyflwyniadau yn esbonio’r gwaith sy’n cael ei wneud yn y maes.

 

Mae’r Pwyllgor wedi parhau i gael adroddiadau monitro rheolaidd ar y cynnydd sy’n cael ei wneud yn dilyn yr Adolygiad, a chafodd ddiweddariad terfynol yn hydref 2020 ar ôl diwedd y Rhaglen ym mis Mehefin 2020.

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 18/10/2016

Dogfennau