Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Cynhaliodd y Pwyllgor
blaenorol ymchwiliad i’r trefniadau
llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Monitrodd yn agos y
gwaith o weithredu’r argymhellion yn ei adroddiad
ym mis Rhagfyr 2013 drwy dderbyn diweddariadau ysgrifenedig a llafar gan y
Bwrdd Iechyd a Llywodraeth Cymru, a thrwy drafod adroddiadau pellach gan yr
Archwilydd Cyffredinol ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Roedd y gwaith
monitro hwn yn gyfle i’r Pwyllgor
drafod sut y mae’r Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’r ffaith y cafodd ei roi o dan
fesurau arbennig gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis
Mehefin 2015. Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod y cyfnod o fesurau arbennig
yn debygol o bara tan fis Mehefin 2019 o leiaf.
Mae’r Pwyllgor wedi derbyn argymhelliad yn Adroddiad
Etifeddiaeth y Pwyllgor blaenorol i baratoi i fonitro cynnydd Bwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ystod y cyfnod o fesurau arbennig, gan gynnwys
gwasanaethau meddyg teulu y tu allan i oriau.
Yn dilyn gohebiaeth
a ddaeth i law, cytunodd y Pwyllgor i gynnal sesiynau tystiolaeth yn ystod
gwanwyn 2019 â Llywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i
edrych ar y gwaith gweithredu a’r cynnydd a wnaed o argymhellion blaenorol y
Pwyllgor, gan gynnwys rheoli iechyd meddwl y bwrdd iechyd, yn dilyn cyfres o
adolygiadau a wnaed, a hefyd i archwilio cymorth ac ymyrraeth ehangach Llywodraeth
Cymru.
Math o fusnes: Arall
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 14/10/2016
Dogfennau