Strategaeth y Gymraeg newydd Llywodraeth Cymru
Strategaeth y Gymraeg newydd Llywodraeth Cymru
Inquiry5
Cynhaliodd y Pwyllgor
Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ymchwiliad i strategaeth
arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg.
Rhwng mis Awst a mis Hydref 2016, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad
ar ei strategaeth newydd ar gyfer y Gymraeg, i gyflawni ei huchelgais ar gyfer
miliwn o siaradwyr Gymraeg erbyn 2050.
Galwodd y Pwyllgor am dystiolaeth ysgrifenedig, ar wahân ond ar yr un pryd
â Llywodraeth Cymru. Nod yr ymchwiliad oedd ceisio llywio strategaeth newydd y Llywodraeth a
dylanwadu arni yn ystod cyfnod ffurfiannol.
Gofynodd y Pwyllgor i bobl ysgrifennu atynt gyda’u barn
ynghylch gwella gwaith cynllunio gweithlu a chymorth i ymarferwyr ar gyfer pob
cyfnod addysg a sicrhau gweithlu digonol ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg ac
addysgu fel pwnc.
Gofynnodd y Pwyllgor i rai oedd â
diddordeb am eu sylwadau yn eu cyfarfodydd rhwng mis Tachwedd 2016 a mis Ionawr
2017.
Adroddiad
Cyhoeddwyd adroddiad ar
ganfyddiadau’r ymchwiliad ‘Gwireddu’r Uchelgais:
Ymchwiliad i Strategaeth Gymraeg newydd Llywodraeth Cymru’ (PDF;
949KB) ym mis Mai 2017.
Cafodd yr adroddiad ei drafod yn y
Cyfarfod Llawn ar 4 Hydref 2017.
Ymateb i'r adroddiad
Ymatebodd
Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ym mis Gorffennaf
2017 (PDF; 205KB).
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 13/10/2016
Dogfennau
- Adroddiad y Pwyllgor: Gwireddu’r Uchelgais - Ymchwiliad i Strategaeth Gymraeg newydd Llywodraeth Cymru - 18 Mai 2017
- Ymateb Llywodraeth Cymru PDF 199 KB
- Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 6) 2017 - 15 Rhagfyr 2016
- Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 6) 2017 – Memorandwm Esboniadol - 15 Rhagfyr 2016
- Strategaeth y Gymraeg: Adroddiad blynyddol 2015-16 - 4 Hydref 2016
Ymgynghoriadau
- Ymchwiliad Strategaeth Iaith Gymraeg (Wedi ei gyflawni)