NDM6121 - Dadl Plaid Cymru
NDM6121 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pwysigrwydd llywodraeth leol dda wrth gyfrannu
at yr economi, y gwasanaeth iechyd a chanlyniadau addysgol lleol.
2. Yn gresynu bod gormod o wasanaethau cyhoeddus wedi bod
yn "wan ac anghyson", ac wedi'i nodweddu gan "ddiffyg
uchelgais", fel y mae Comisiwn Williams yn ei ddisgrifio.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
(a) cynyddu atebolrwydd llywodraeth leol drwy ddiwygio
trefniadau etholiadol a gostwng yr oedran pleidleisio i 16;
(b) archwilio'r ffordd y gellir diwygio cyllid
llywodraeth leol i sicrhau system decach a mwy cynaliadwy;
(c) cyflwyno cyfres o gyfraddau, telerau ac amodau cyflog
a gaiff eu penderfynu'n genedlaethol, i reoli cyflogau swyddogion uwch a phrif
swyddogion drwy fframwaith cenedlaethol; a
(d) sefydlu awdurdodau cyfunol rhanbarthol fel rhan o
ymdrech Llywodraeth Cymru i ddiwygio llywodraeth leol ar gyfer gwella
cydweithrediad rhanbarthol rhwng awdurdodau lleol presennol.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 13/10/2016
Angen Penderfyniad: 19 Hyd 2016 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Rhun ap Iorwerth AS