Y Goblygiadau i Gymru yn Sgil Gadael yr Undeb Ewropeaidd

Y Goblygiadau i Gymru yn Sgil Gadael yr Undeb Ewropeaidd

 

Yn sgil penderfyniad y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd, cymerodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol dystiolaeth er mwyn deall goblygiadau llawn i Gymru sy’n deillio o ganlyniad y refferendwm.

 

Dyma ymateb y Cadeirydd, David Rees AC i ddechrau proses Erthygl 50 o Gytuniad Lisbon:

 

“Mae cychwyn Erthygl 50 yn foment arwyddocaol yn hanes ein gwlad. Bydd y cyfnod trafod o ddwy flynedd yn dechrau o ddifrif nawr a bydd ein pwyllgor trawsbleidiol yn gweithio'n ddiflino i sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed yn Llundain, ym Mrwsel ac yn y prif ddinasoedd ledled Ewrop”.

 

Casglu tystiolaeth

 

Penderfynodd y Pwyllgor y byddai ei waith cychwynnol yn canolbwyntio ar geisio barn arbenigwyr drwy gynnal rhaglen o seminarau thematig a galwad gyntaf am gyflwyniadau ysgrifenedig.

 

Roedd y broses ymgynghori’n gyfle i’r Pwyllgor weld y materion sy’n berthnasol i’r sectorau yng Nghymru.

 

Ochr yn ochr â’r gwaith hwn, cynhaliodd y Pwyllgor sesiynau craffu gyda Llywodraeth Cymru a dechreuodd ystyried sut y gallai’r Cynulliad ddatblygu ei ddull gweithredu wrth i’r broses ymadael fynd rhagddi.

 

Adoddiad cyntaf y Pwyllgor

 

Cyhoeddwyd adroddiad y Pwyllgor ar y goblydiadau i Gymru yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd ar 27 Ionawr 2017. Darllenwch yr adroddiad llawn (PDF 1MB).

 

Mae dwy ran i’r adroddiad hwn. Mae’r rhan gyntaf yn crynhoi’r materion hynny sy’n berthnasol i Gymru sydd wedi codi yn sgil ein gwaith cychwynnol i ddarparu dealltwriaeth fwy clir o’r heriau dyrys i Gymru wrth i’r DU ddynesu at adael yr Undeb Ewropeaidd.

 

Mae ail ran yr adroddiad yn canolbwyntio ar ymateb Llywodraeth Cymru i’r refferendwm, yr hyn a wyddom am safbwynt Llywodraeth y Deyrnas Unedig a rôl Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae hyn yn cynnwys unrhyw rôl fwy ffurfiol y gall fod yn ofynnol i’r Cynulliad ei chwarae yn y broses ymadael.

 

Cafwyd ymateb* gan Lywodraeth Cymru ar 10 Mawrth 2017.

*Mae’r dyddiad anghywir – sef 10 Mawrth 2016 – ar y ddogfen.

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 07/10/2016

Dogfennau

Ymgynghoriadau