Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd

Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd

Cynhaliodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Pedwerydd Cynulliad ymchwiliad i werth am arian traffyrdd a chefnffyrdd, sef ymchwiliad y penderfynodd y Pwyllgor hwnnw ei gynnal i ystyried gwerth am arian o ran:

  • cynnal a chadw a gwella cefnffyrdd o ddydd i ddydd; a
  • rhoi prosiectau mawr ar waith i wella cefnffyrdd.

Fel rhan o’r ymchwiliad ystyriodd y Pwyllgor:

  • a yw dulliau Llywodraeth Cymru o roi prosiectau mawr ar waith i wella cefnffyrdd yn sicrhau gwerth am arian, gan gynnwys:
    • pa mor effeithiol yw dulliau Llywodraeth Cymru o gynllunio a phrisio cynlluniau;
    • sut y mae’n rhoi prosiectau ar waith ac yn eu gwerthuso;
    • sut y gallai Llywodraeth Cymru wella’r modd y mae’n cynllunio prosiectau ac yn eu rhoi ar waith.
  • i ba raddau y mae’r dulliau presennol o gynnal a chadw a gwella’r rhwydwaith drwy’r Asiantau Cefnffyrdd wedi sicrhau gwerth am arian; asut y gellir gwella swyddogaethau’r Asiantau Cefnffyrdd o ran cynnal a chadw a gwella cefnffyrdd, a hynny yng nghyd-destun adolygiad Llywodraeth Cymru o’r asiantau hyn.

Yn ei Adroddiad Etifeddiaeth, argymhellodd y Pwyllgor blaenorol y dylai ei olynydd ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru yn yr hydref 2016 am y camau a gymerwyd i weithredu argymhellion y Pwyllgor ac y dylai gysylltu ag olynydd y Pwyllgor Menter a Busnes i drafod unrhyw gynlluniau ar gyfer gwaith craffu ychwanegol ar y pwnc hwn.

Trafododd a nododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2016.

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/08/2016

Dogfennau