P-05-702 Gofynion presenoldeb y Lwfans Cynhaliaeth Addysg ar gyfer Oedolion Ifanc sy’n Ofalwyr

P-05-702 Gofynion presenoldeb y Lwfans Cynhaliaeth Addysg ar gyfer Oedolion Ifanc sy’n Ofalwyr

Wedi'i gwblhau

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Melanie Rees ar ôl casglu 61 llofnod.

 

Geiriad y ddeiseb

Rwy’n galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i annog Llywodraeth Cymru i ddiwygio meini prawf presennol y Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) ynghylch Oedolion Ifanc sy’n Ofalwyr yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, mae’r meini prawf presenoldeb, perfformiad ac ymddygiad yn Ffurflen Cytundeb Dysgu yr LCA yn nodi bod yn rhaid i fyfyrwyr fodloni gofynion presenoldeb y coleg 100 y cant o ran y rhaglen y cytunwyd arni oni bai iddynt gael eu hatal rhag gwneud hynny gan salwch, neu reswm da arall y cytunwyd arno gan y coleg, yn ogystal â mynychu pob dosbarth ar yr amser cywir ac yn y lle cywir, gan gyflwyno’r holl waith erbyn y dyddiadau cau a bennwyd.

Mae’r meini prawf hyn yn gweithredu fel rhwystr sy’n atal oedolion ifanc sy’n ofalwyr rhag dilyn addysg bellach ac yn cyfrannu at nifer uchel yr oedolion ifanc sy’n ofalwyr sydd wedyn yn rhoi’r gorau i’w cyrsiau oherwydd gofynion eu rolau gofalu. Ceir tystiolaeth o hyn yng nghanfyddiadau’r gwaith ymchwil ‘Time to Be Heard’ sy’n dweud nad yw 21 y cant o’r 22,655 o oedolion ifanc sy’n ofalwyr yng Nghymru mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth a’u bod bedair gwaith yn fwy tebygol o adael y coleg na’r rhai sydd heb ymrwymiadau gofalu.

O dan ganllawiau’r LCA ar hyn o bryd, nid oes unrhyw ystyriaeth yn cael ei rhoi i gyfrifoldebau gofalu a all effeithio ar allu’r oedolyn ifanc sy’n ofalwr i gymryd rhan mewn addysg, sy’n enghraifft o wahaniaethu ac sy’n cyfyngu ar ei ddewisiadau o ran gwireddu ei botensial yn llawn, hyrwyddo ei yrfa a gwneud cyfraniad cadarnhaol i gymdeithas.

 

Er mwyn gostwng nifer yr oedolion ifanc sy’n ofalwyr nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth a chynyddu’r nifer sy’n dilyn addysg bellach a hynny gan gwblhau eu cyrsiau, credaf fod angen cydnabod rôl hanfodol oedolion ifanc sy’n ofalwyr drwy ystyried eu cyfrifoldebau gofalu drwy gyflwyno gofyniad presenoldeb is o 80 y cant.

Cynigiaf fod cwestiwn yn cael ei gynnwys ar ffurflen gofrestru’r LCA er mwyn nodi oedolion ifanc sy’n ofalwyr a chydnabod y gall fod angen cymorth arnynt i ddilyn addysg bellach a dal ati, annog oedolion ifanc sy’n ofalwyr i gofrestru â Gwasanaeth Gofalwyr a/neu’r Gwasanaethau Cymdeithasol a chynorthwyo Llywodraeth Cymru i fonitro nifer yr oedolion ifanc sy’n ofalwyr yng Nghymru.

 

 

Gwybodaeth ychwanegol

Astudiaethau achos profiadau dyddiol gofalwyr ifanc:

Rwyf wedi gofalu am fy mam ers pan oeddwn i’n 11 oed. Oherwydd na all mam wneud llawer ei hun, fi sy’n gwneud yr holl waith tŷ, fi sy’n rhoi’r feddyginiaeth i fy mam bob dydd a fi sy’n mynd â hi i unrhyw apwyntiadau. Rydym yn byw 14 milltir o’r dref agosaf, felly mae’n cymryd amser hir i deithio i’r coleg ac yn ôl ar y bws. Rwyf yn fy nhrydedd flwyddyn yn y coleg. Rwy’n dibynnu llawer ar fy arian LCA, oherwydd bod mam yn cael budd-daliadau ac mae arian yn dynn. Pan fydd mam yn cael diwrnod gwael, rwy’n hwyr yn cyrraedd y dosbarth gan fy mod yn colli’r bws ysgol. Rwyf hefyd yn colli coleg oherwydd fy mod yn mynd â mam i’w hapwyntiadau meddygol. Oherwydd hyn, mae fy arian LCA wedi’i atal, sydd wedi golygu nad wyf wedi gallu prynu bwyd rai wythnosau, felly rwy’n credu y dylid caniatáu mwy o hyblygrwydd o fewn gofyniad presenoldeb yr LCA." (Gofalwr ifanc benywaidd 18 oed o Sir Gaerfyrddin)

Rwy’n gofalu am fy mam sydd â thiwmor ar yr ymennydd sydd wedi ei gadael bron yn ddall. Mae Dad yn gweithio swydd amser llawn, a gan mai fi yw’r hynaf o 8 o blant, fi yw’r prif ofalwr, a fi sydd hefyd yn edrych ar ôl fy mrodyr a chwiorydd. Rwy’n ei chael hi’n anodd ymdopi gan fy mod yn fy nhrydedd flwyddyn yn y coleg. Rwy’n awyddus i gwblhau fy addysg, er yn ddiweddar rwyf wedi bod yn meddwl efallai y bydd yn rhaid i mi roi’r gorau iddi oherwydd fy mod yn ei chael hi’n anodd cadw lefel fy mhresenoldeb yn ddigon uchel ac rwyf weithiau’n hwyr yn cyflwyno aseiniadau. Rwy’n meddwl, felly, y byddai’n help pe bai mwy o hyblygrwydd i oedolion ifanc sy’n ofalwyr yng nghytundeb dysgu yr LCA fel na fyddai’n rhaid i mi hefyd boeni am fy LCA yn cael ei atal gan fy mod yn dibynnu ar yr arian hwn fel fy unig incwm." (Gofalwr ifanc benywaidd 18 oed o Sir Gaerfyrddin)

Rwyf wedi bod yn brif ofalwr i fy mam, sydd â phroblemau iechyd meddwl, ers i mi fod yn 16 oed, felly roedd yn rhaid i mi adael yr ysgol i ofalu amdani. Byddwn wedi hoffi parhau gyda fy addysg, ond mae arian yn dynn iawn ac roeddwn yn gwybod na fyddwn i wedi gallu cyflawni presenoldeb o 100 y cant oherwydd fy mod yn edrych ar ôl fy mam, felly gwn na fyddwn yn cael yr LCA. Os byddai’r rheolau’n wahanol ar gyfer oedolion ifanc sy’n ofalwyr, yna efallai y gallwn fod wedi mynd i’r coleg. Fodd bynnag, ar hyn o bryd rwy’n berson ifanc nad yw mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth." (Gofalwr ifanc gwrywaidd 16 oed o Sir Gaerfyrddin).

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 11/10/2016 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 13/09/2016

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Llanelli
  • Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 08/08/2016