P-05-699 Cronfa Driniaeth i Gymru - rhaid dod â’r Loteri Cod Post ynghylch Iechyd i ben
P-05-699 Cronfa Driniaeth i Gymru - rhaid dod â’r Loteri Cod Post ynghylch Iechyd i ben
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Angharad Roche ar ôl casglu 27 llofnod.
Geiriad y ddeiseb
Un o’r datblygiadau pwysicaf a
ddaeth o Gymru erioed oedd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Mae’n un o’n hasedau
mwyaf gwerthfawr ac mae’n rhaid i ni gadw gafael ynddo. Ar hyn o bryd, rydym
mewn sefyllfa anobeithiol lle nad yw mynediad at driniaethau sy’n defnyddio
cyffuriau costus sy’n achub bywydau ar gael mewn ffordd deg neu gyfartal ledled
Cymru. Mae cleifion sydd ag angen dybryd am gyffuriau i achub eu bywydau yn
cael eu hatal gan eu Byrddau Iechyd Lleol rhag cael mynediad at y triniaethau
sydd eu hangen arnynt ar gymaint o frys, gan arwain at ganlyniadau difrifol i’w
hiechyd a’u disgwyliad oes. Rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu eu
gweithdrefnau o ran sancsiynu triniaethau costus ar unwaith. Yn ogystal â hyn,
galwaf ar Lywodraeth Cymru i asesu anghenion pob claf fesul achos oherwydd bod
y gofyniad presennol bod yr holl gyffuriau y gellir eu hariannu yn ymddangos ar
restr o ‘Gyffuriau Cymeradwy’ yn rhy gul, ac yn atal cleifion rhag cael
mynediad at driniaethau nad ydynt eto ar y rhestr triniaethau y mae meddygon
ymgynghorol yn dweud y byddant yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd hirdymor a
disgwyliad oes cleifion.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 07/03/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd
ar y camau a ganlyn:
- cau'r
ddeiseb ar y sail nad yw'n bosibl nodi sut i fynd â'r ddeiseb ymlaen yn
absenoldeb cysylltiad gyda'r
deisebwr; ac wrth wneud hynny
- aros
am ddatganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar
yr adolygiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar y broses Cais Cyllido Cleifion
Unigol (IPFR), a'i anfon ymlaen at
y deisebydd er gwybodaeth.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- Gorllewin Caerdydd
- Canol De Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 08/08/2016