Blaenoriaethau ar gyfer y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu

Blaenoriaethau ar gyfer y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu

Inquiry5

 

Cefndir

 

Dros haf 2017 fe wnaeth y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y blaenoriaethau ar gyfer y Pumed Cynulliad. O ganlyniad, bu’r Pwyllgor yn ystyried yr ymatebion a gafwyd yn sgil yr ymgynghoriad, a llunio arolwg barn i'r cyhoedd benderfynu pa bwnc fyddai'n cael ei flaenoriaethu nesaf.

Fe wnaethon nhw hynny trwy greu arolwg y byddai pobl yn gallu ei gwblhau. Dyma’r pynciau y cytunwyd i bleidleisio arnynt:

 

- Cryfhau cyfranogiad dinasyddion a mynediad at wybodaeth wleidyddol;

- cadw treftadaeth ddiwylliannol leol yng Nghymru;

- adolygu'r modd y caiff hanes ei addysgu yng Nghymru gan ganolbwyntio ar ddiwylliant a threftadaeth Cymru

- sut i ddatblygu a hyrwyddo brand Cymru;

- adolygiad arbenigol Llywodraeth Cymru o Ddarpariaeth Amgueddfeydd Lleol yng Nghymru; 

- sut i gefnogi ac annog ffurfiau celf unigryw a thraddodiadol Cymru;

- ariannu'r celfyddydau ar lawr gwlad ac yn lleol, a mynediad at y celfyddydau hynny;

- strategaeth ar gyfer ffioedd a thelerau artistiaid ar gyfer y celfyddydau gweledol a chymhwysol yng Nghymru;

- strategaeth i ddatblygu'r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru;

- cyllid ar gyfer addysg cerddoriaeth a mynediad at yr addysg honno;

- cymorth dwyieithog ar gyfer pobl fyddar a thrwm eu clyw a phobl sydd ag anawsterau cyfathrebu.

 

Cafwyd datganiad yn y Cyfarfod Llawn gan Gadeirydd y Pwyllgor ynghylch yr arolwg barn, ar 28 Medi 2016.

 

Daeth arolwg barn y Pwyllgor i ben ar 14 Tachwedd 2016.

 

O ganlyniad i'r ymgynghoriad cyhoeddus hwn, penderfynodd y pwyllgor gynnal ymholiadau i warchod treftadaeth ddiwylliannol leol yng Nghymru, ac addysgu hanes yng Nghymru i ganolbwyntio ar ddiwylliant a threftadaeth Cymru.

 

 

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 28/07/2016

Ymgynghoriadau