Craffu ar waith Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes
Craffu ar waith Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes
Inquiry5
Cynhaliodd Pwyllgor
Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ymchwiliad
i gefnogi a hybu’r Gymraeg.
Cefndir
Fel rhan o’i
ymchwiliad, bu’r Pwyllgor yn gwneud gwaith craffu ar ôl deddfu ar Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
Roedd hyn yn cynnwys asesu'r broses o weithredu'r ddeddfwriaeth, ei heffaith
a'i heffeithiolrwydd. Roedd yr ymchwiliad hefyd yn rhoi cyfle i asesu
penderfyniadau polisi ehangach Llywodraeth Cymru o ganlyniad i gyflwyno Mesur
2011, yn enwedig yng nghyd-destun safonau’r Gymraeg.
Bu’r
Pwyllgor hefyd yn trafod y cyd-destun rhyngwladol ehangach, yn enwedig lle ceir
enghreifftiau o ddeddfwriaeth a chynllunio ieithyddol sy'n cefnogi ieithoedd
lleiafrifol.
Adroddiad
Ym mis Gorffennaf 2019, cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad
(PDF; 728KB).
Ymateb i'r
adroddiad
Cafwyd
ymateb gan Lywodraeth Cymru a gellir ei weld yma (PDF,
400KB).
Math o fusnes: Craffu ar Weinidogion
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 20/07/2016
Dogfennau
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg - 16 Chwefror 2017 PDF 160 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes - Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg - 16 Chwefror 2017 PDF 160 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes- Ymchwiliad i'r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg - 11 Hydref 2016 PDF 158 KB
- Llythyr at y Cadeirydd gan Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Adolygiad Donaldson - 26 Medi 2016 PDF 200 KB
- Llythyr at Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes gan y Cadeirydd: Blaenoriaethau ar gyfer y Pumed Cynulliad - 22 Medi 2016 PDF 375 KB Gweld fel HTML (5) 25 KB
- Llythyr at Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes gan y Cadeirydd: Cyllideb Ddrafft 2017-18 - 28 Gorffennaf 2016 PDF 375 KB Gweld fel HTML (6) 25 KB