NDM6077 - Dadl Plaid Cymru

NDM6077 - Dadl Plaid Cymru

NDM6077 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi'r addewidion a wnaed i bobl Cymru gan y rhai a oedd yn ymgyrchu i'r DU dynnu allan o'r Undeb Ewropeaidd.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod yr addewidion hynny yn cael eu cyflawni ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys:

 

a) bod £490 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol yn cael ei roi i GIG Cymru;

 

b) y caiff lefel y cyllid a gaiff Cymru o raglenni'r UE ar hyn o bryd ei chynnal;

 

c) y bydd y cymorth taliadau uniongyrchol a gaiff ffermwyr Cymru yn gyfartal, os nad yn uwch na'r hyn a ddaw drwy'r Polisi Amaethyddol Cyffredin; a

 

d) bod hawl dinasyddion yr UE adeg Brexit i aros yn y DU heb ofn na rhwystr, yn cael ei warantu.

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 07/07/2016

Angen Penderfyniad: 13 Gorff 2016 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Prif Aelod: Simon Thomas AC