NDM6027 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NDM6027 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NDM6027
Bethan
Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Lee Waters
(Llanelli)
Russell
George (Sir Drefaldwyn)
Jeremy Miles
(Castell-nedd)
Jenny
Rathbone (Canol Caerdydd)
Simon Thomas
(Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu bod y swm o arian a gaiff ei wario gan y BBC ar raglenni Saesneg
ar gyfer Cymru wedi disgyn 25 y cant yn y degawd diwethaf.
2. Yn credu bod gan BBC Cymru ran hanfodol i'w chwarae o
ran adlewyrchu bywydau, uchelgeisiau a heriau pobl Cymru.
3. Yn nodi cyfaddefiad yr Arglwydd Hall bod y cyllid ar
gyfer cynnwys Saesneg a gaiff ei wneud yng Nghymru ar gyfer cynulleidfaoedd
Cymru wedi gostwng i lefelau anghynaliadwy, ac felly'n galw ar y BBC i
amlinellu'n fanwl beth yw ei ymrwymiadau gwario o ran Cymru yn y dyfodol agos
a'r dyfodol pellach.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/07/2016
Angen Penderfyniad: 13 Gorff 2016 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Russell George AS, Bethan Sayed AS, Jeremy Miles AS, Jenny Rathbone AS, Simon Thomas AC, Lee Waters AS