Bil Cymru Llywodraeth y DU
Cyhoeddwyd Bil Cymru gan Lywodraeth y DU ar
7 Mehefin 2016. Prif bwrpas y Bil oedd diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006
er mwyn sicrhau bod proses ddeddfu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn symud tuag
at fodel cadw pwerau. Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i’r Bil ar ffurf Deddf Cymru
2017 ar 31 Ionawr 2017.
Cytunodd y Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol* i wneud gwaith craffu ar Fil Cymru, i
drafod unrhyw faterion oedd yn berthnasol i'r Bil, a gyflwynwyd gan Lywodraeth
y DU yn Nhŷ'r Cyffredin ar 7 Mehefin 2016, ac i gyflwyno adroddiad arnynt.
Yn benodol, ystyriodd y Pwyllgor y graddau:
(i)
roedd y Bil Cymru
drafft wedi'i ddiwygio yn dilyn gwaith craffu cyn deddfu i gynnwys y
canlynol:
- cael gwared ar y prawf angenrheidrwydd neu ei
gyfnewid am brawf sy'n seiliedig ar briodoldeb;
- cael system
i’w gwneud yn ofynnol cael cydsyniad Gweinidogion y Goron, sy'n
adlewyrchu'r model yn Neddf yr Alban 1998;
- lleihau'n
sylweddol nifer a graddfa'r cymalau cadw a'r cyfyngiadau penodol fel sy'n
addas i ddeddfwrfa aeddfed, effeithiol ac atebol;
- cael
awdurdodaeth ar wahân lle byddai Deddfau Cymru yn gymwys i Gymru yn
unig;
- cael system
lle mae Deddfau Cymreig yn addasu cyfraith droseddol a phreifat fel y bo'n
briodol ar gyfer gorfodaeth resymol; a
- chael
ymrwymiad clir y bydd cydgrynhoi dwyieithog yn cael ei wneud yn ystod y
Senedd bresennol.
(ii)
y mae’r model cadw pwerau arfaethedig o
gymhwysedd deddfwriaethol yn glir, yn gydlynol ac yn ymarferol, ac yn darparu
fframwaith cryf i alluogi'r Cynulliad
i ddeddfu o'i fewn.
Cyflwynodd Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol y Pedwerydd Cynulliad adroddiad (PDF, 683KB) ar Fil Cymru drafft Llywodraeth y DU ym mis Rhagfyr 2015.
Tystiolaeth gan y Cyhoedd
Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus
i gasglu tystiolaeth ac i glywed eich
barn.
Ar 11
Gorffennaf, lansiwyd y Pwyllgor dadl fyw ar Loomio.
Roedd y platfform yma yn gyfle i randdeiliaid a’r
Pwyllgor ddod at ei gilydd i drafod, dadlau a rhannu syniadau ar y Bil wrth
iddo fynd drwy Senedd y DU.
Adroddiad
y Pwyllgor
Cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad
(PDF, 1MB) ym mis Hydref 2016. Mae llyfryn
atodol (PDF, 11MB) yn cynnwys yr holl atebion i’r ymgynghoriad ar gael
hefyd. Gallwch hefyd ddarllen fersiwn cryno o’n hadroddiad.
Cyfarfu’r Pwyllgor â Phwyllgor Cyfansoddiad Tŷ’r
Arglwyddi ar 12 Hydref i drafod y Bil.
Dadl
yn y Cyfarfod Llawn
Cynhaliwyd y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y
Pwyllgor ar ddydd Mercher
19 Hydref. Gallwch wylio’r ddadl eto ar Senedd.tv
a gallwch hefyd ddarllen Cofnod
y Trafodion.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol
Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cymru [PDF, 346KB] a datganiad
ysgrifenedig [PDF, 120KB]
ategol ddydd Llun 21 Tachwedd 2016. Cyfeiriodd y
Pwyllgor Busnes y
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol ar 22 Tachwedd 2016, gyda therfyn amser ar gyfer
cyflwyno adroddiad ar 12 Ionawr 2017.
Cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad
(PDF, 185KB) ar 13 Rhagfyr 2016.
Wedi hynny cyflwynodd Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol [PDF, 169KB] a datganiad
ysgrifenedig [PDF, 242KB] ar 10 Ionawr 2017 a Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Diwygiedig [PDF, 30KB] ar 13 Ionawr
2017 a dynnwyd yn ôl ac a ailgyflwynwyd
[PDF, 174KB] ar 16 Ionawr 2017. Ni chafodd y memoranda cydsyniad
deddfwriaethol atodol hyn ei drafod gan y Pwyllgor.
Ystyriodd y Cynulliad y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol
ar y Bil yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 17 Ionawr 2017.
Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i’r Bil ar 31 Ionawr 2017.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 15/06/2016
Dogfennau
- Bil Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 452 KB
- Nodiadau Esboniadol (Saesneg yn unig)
PDF 1 MB
- Llythyr gan y Prif Weinidog i'r Ysgrifennydd Gwladol Cymru: Cymal 60 - 22 Rhagfyr 2017 (Saesneg yn unig)
PDF 174 KB
- Llythyr gan y Prif Weinidog i'r Ysgrifennydd Gwladol Cymru: Gwelliannau - 30 Awst 2017 (Saesneg yn unig)
PDF 180 KB
- Llythyr gan y Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i'r Llywydd - 28 Gorffennaf 2017
PDF 116 KB
- Llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru: Cymal 69 - 12 Chwefror 2017 (Saesneg yn unig)
PDF 381 KB
- Llythyr i'r Ysgrifennydd Gwladol Cymru: Cymal 69 - 27 Ionawr 2017
PDF 167 KB
- Llythyr gan yr Ysgrifennydd Gwladol Cymru at Y Llywydd: Cymal 60 - 13 Rhagfyr 2016 (Saesneg yn unig)
PDF 99 KB
- Llythyr gan yr Ysgrifennydd Gwladol Cymru at y Prif Weinidog: Cymal 60 - 13 Rhagfyr 2016 (Saesneg yn unig)
PDF 99 KB
- Ymateb Llywodraeth y DU i adroddiad Pwyllgor Cyfansoddiadol Tŷ'r Arglwyddi ar Fil Cymru, 12 Rhagfyr 2016 (Saesneg yn unig)
PDF 147 KB
- Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns AS, 2 Rhagfyr 2016
PDF 97 KB Gweld fel HTML (11) 19 KB
- Yr amserlen ar gyfer ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil Cymru - Tachwedd 2016
- Llythyr gan y Cadeirydd y Pwyllgor at y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Lang o Monkton, Pwyllgor y Cyfansoddiad, Tŷ'r Arglwyddi, 10 Tachwedd 2016
PDF 171 KB Gweld fel HTML (13) 18 KB
- Llythyr gan Llywydd at Arglwyddi Cymreig: gwenlliannau arfaethedig - 20 Hydref 2016
PDF 336 KB
- Llythyr gan y Prif Weinidog i'r Ysgrifennydd Gwladol Cymru - 20 Hydref 2016 (Saesneg yn unig)
PDF 194 KB
- Llythyr gan y Cadeirydd at y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Lang o Monkton, Pwyllgor y Cyfansoddiad, Tŷ'r Arglwyddi, 6 Hydref 2016
PDF 292 KB Gweld fel HTML (16) 1 KB
- Llythyr gan y Llywydd i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, 30 Medi 2016
PDF 411 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch Bil Cymru - 29 Medi 2016
PDF 266 KB
- Llythyr gan Y Llywydd i'r Aelod Seneddol Cymreig: Gwelliannau - 9 Medi 2016
PDF 318 KB
- Llythyr gan y Ysgrifennydd Gwladol Cymru i'r Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - 7 Medi 2016 (Saesneg yn unig)
PDF 73 KB
- Llythyr gan y Gadeirydd y Phwyllgor Cyfansoddiad Tŷ’r Arglwyddiat i'r Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - 20 Gorffennaf 2016 (Saesneg yn unig)
PDF 56 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - 14 Gorffennaf 2016
PDF 326 KB Gweld fel HTML (22) 32 KB
- Llythyr gan y Cadeirydd at y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Lang o Monkton, Pwyllgor y Cyfansoddiad, Tŷ'r Arglwyddi, 14 Gorffennaf (Saesneg yn unig)
PDF 186 KB
- Llythyr gan y Comisiynydd y Gymraeg i'r Ysgrifennydd Gwladol Cymru - 14 Gorffennaf 2016 (Saesneg yn unig)
PDF 193 KB
- Llythyr gan y Comisiynydd y Gymraeg i'r Llywydd - 7 Gorffennaf 2016
PDF 777 KB
- Gwelliannau Arfaethedig y Llywydd, Cyfnod Pwyllgor, Diwrnod 2, 5 Gorffennaf 2016
PDF 864 KB
- Gwelliannau Arfaethedig y Prif Weinidog, Cyfnod Pwyllgor, Diwrnod 2, 5 Gorffennaf 2016 (Saesneg yn unig)
PDF 623 KB
- Gwelliannau Arfaethedig y Llywydd, Cyfnod Pwyllgor, Diwrnod 1, 30 Mehefin 2016
PDF 924 KB
- Gwelliannau Arfaethedig y Prif Weinidog, Cyfnod Pwyllgor, Diwrnod 1, 29 Mehefin 2016 (Saesneg yn unig)
PDF 544 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor i Arweinydd Grŵp UKIP, Neil Hamilton AC, 28 Mehefin 2016
PDF 87 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor i Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies, 27 Mehefin 2016
PDF 87 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor i Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, 27 Mehefin 2016
PDF 87 KB
- Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns AS, 24 Mehefin 2016 (Saesneg yn unig)
PDF 96 KB
- Ymateb wrth Ysgrifennyd Glwadol Cymru, y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns AS, 30 Mehefin 2016 (Saesneg yn unig)
PDF 306 KB
- Ymateb gan Gadeirydd y Pwyllgor i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, 5 Gorffennaf 2016
PDF 162 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor i'r Arglwydd Ganghellor a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, y Gwir Anrhydeddus Michael Gove AS, 24 Mehefin 2016 (Saesneg yn unig)
PDF 97 KB
- Ymateb gan yr Arglwydd Ganghellor a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, y Gwir Anrhydeddus Michael Gove AS i'r Pwyllgor, 11 Gorffennaf 2016 (Saesneg yn unig)
PDF 226 KB
- Llythyr gan y Llywydd at Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns AS, 21 Mehefin 2016
PDF 389 KB
- Llythyr gan Arweinydd y Tŷ, Jane Hutt AC, at y Llywydd, Elin Jones AC, 20 Mehefin 2016
PDF 916 KB
- Llythyr gan yr Arweinwyr Trawsbleidiol at Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns AS, 17 Mehefin 2016 (Saesneg yn unig)
PDF 118 KB
- Llythyr gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones AC, at Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns AS, 9 Mehefin 2016 (Saesneg yn unig)
PDF 224 KB
- Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Adroddiad ar Fil Cymru Llywodraeth y DU - Hydref 2016
PDF 2 MB
- * Yn dilyn penderfyniad yn y Cyfarfod Llawn ar 29 Ionawr 2020, daeth y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Ymgynghoriadau
- Bil Cymru Llywodraeth y DU (Wedi ei gyflawni)