Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol - Y Bumed Senedd
Caiff
Aelodau'r Cynulliad ofyn Cwestiynau Llafar y Cynulliad i Ysgrifenyddion y
Cabinet am unrhyw fater sy'n dod o fewn eu cyfrifoldeb.
Bydd Ysgrifenyddion
y Cabinet yn ateb cwestiynau unwaith bob pedair wythnos. Atebir cwestiynau
llafar yn ystod cyfnod a neilltuir ar gyfer Cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.
Bydd y
Llywydd yn cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a
gaiff gyflwyno cwestiynau. Caiff pob Aelod gynnwys ei enw yn y balot.
Yna, rhaid i'r Aelod a ddetholir gyflwyno'r
cwestiwn llafar o leiaf bum niwrnod cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer ei ateb.
Defnyddir cyfrifiadur i ddewis trefn ar hap ar gyfer gofyn y cwestiynau yn y
Cyfarfod Llawn.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 10/06/2016