NDM6021 - Dadl Ceidwadwyr Cymreig
NDM6021 - Dadl Ceidwadwyr Cymreig
NDM6021 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi llwyddiannau
enfawr tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru wrth gymryd rhan ym mhencampwriaeth yr
Euro 2016 yn Ffrainc ar hyn o bryd.
2. Yn cydnabod y rôl y gallai rhan Cymru yn y bencampwriaeth ei chwarae o ran
hybu cyfranogiad mewn chwaraeon, gwella lefelau iechyd y cyhoedd a chreu
etifeddiaeth barhaus ar gyfer ein hathletwyr elitaidd.
3. Yn mynegi pryder at
ganfyddiadau Arolwg Iechyd diweddar Llywodraeth Cymru, a oedd yn pwysleisio
maint yr heriau o ran iechyd y cyhoedd sy'n wynebu Cymru ac a ganfu bod 24 y
cant o oedolion yn cael eu hystyried yn ordew a bod 59 y cant o oedolion yn
cael eu hystyried i fod dros eu pwysau neu'n ordew.
4. Yn credu bod yn rhaid
i Lywodraeth Cymru weithio gyda chyrff llywodraethu a phartneriaid allweddol i
ddefnyddio digwyddiadau fel y ffaith bod Cymru wedi cymhwyso ac wedi cymryd
rhan yn rowndiau terfynol Euro 2016 i wella iechyd y cyhoedd ac ysgogi mwy o
gyfranogid mewn gweithgarwch corfforol.
Math o fusnes: Dadl
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/06/2016