Cynigion Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer Datganoli Pellach i Gymru
Cynigion Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer Datganoli Pellach i Gymru
Cynhaliodd
y Pwyllgor
Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ymchwiliad byr i Gynigion
Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer Datganoli Pellach i Gymru.
Ym
mis Chwefror 2015, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig Bapur Gorchymyn, “Pwerau
at Bwrpas: Tuag at Setliad Datganoli sy’n Para i Gymru”. Cyhoeddwyd y papur
hwn yn sgil trafodaethau trawsbleidiol yn dilyn ail adroddiad y Comisiwn Silk.
Ar yr
un pryd, cyhoeddodd y Comisiwn Smith ei adroddiad yntau, ar ôl y refferendwm ar
annibyniaeth, gan wneud argymhellion ynghylch datganoli pellach yn yr Alban.
Yn
Araith y Frenhines ym mis Mai 2015, nodwyd y byddai Llywodraeth y Deyrnas
Unedig yn cyflwyno Bil Cymru i ddeddfu’n unol â chynigion Llywodraeth y Deyrnas
Unedig yn y Papur Gorchymyn.
Tystiolaeth
Clywsom
dystiolaeth lafar gan banel
o arbenigwyr ar 22 Mehefin 2015 a oedd yn cynnwys yr Athro Thomas Glyn
Watkin, yr Athro Adam Tomkins ac Emyr Lewis, a chan Brif
Weinidog Cymru a’r Llywydd ar 29 Mehefin 2015.
Gwnaethom
ganolbwyntio ar dri phrif faes yn y sesiynau hyn:
·
Y Model Cadw Pwerau
·
Sefydlogrwydd y Cynulliad
·
Wethdrefn Cydsyniad Deddfwriaethol
Adroddiad
Cyhoeddodd
y Pwyllgor ei adroddiad
ym mis Gorffennaf 2015. Bu hyn yn gymorth i’r Pwyllgor yn ei waith o graffu ar Fil
Cymru drafft.
Math o fusnes:
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 14/04/2016
Dogfennau