Bil Llywodraeth Leol (Cymru) Drafft
Bil Llywodraeth Leol (Cymru) Drafft
Ym mis Tachwedd 2015, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y Bil
Llywodraeth Leol (Cymru) drafft i ymgynghori yn ei gylch.
Cynhaliodd y Llywodraeth
ymgynghoriad ynghylch y Bil drafft gyda’r bwriad o gyflwyno’r Bil yn
ystod y Pumed Cynulliad. Bu’r Pwyllgor Cymunedau,
Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn craffu ar y
Bil cyn y broses ddeddfu.
Dyma oedd cylch
gorchwyl y Pwyllgor ar gyfer y gwaith craffu cyn y broses ddeddfu:
Ystyried y Bil
drafft a'r dogfennau atodol, gan gynnwys y Memorandwm Esboniadol a’r Asesiad
Effaith Rheoleiddiol (sy'n asesu costau a manteision y bwriadau polisi posibl a
gynhwysir yn y Bil drafft).
Tystiolaeth
Cyhoeddodd
y Pwyllgor galwad
am dystiolaeth, a ddaeth i ben ddydd Gwener 21 Ionawr 2016.
Adroddiad
ar yr Bil Llywodraeth Leol (Cymru) Draft – Mawrth 2016
Math o fusnes: Bil
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/12/2015
Ymgynghoriadau
- Bil Llywodraeth Leol (Cymru) Drafft (Wedi ei gyflawni)