Cyngor Cynghori Cymru ar Arloesi

Cyngor Cynghori Cymru ar Arloesi

Bu’r Pwyllgor Menter a Busnes yn craffu ar waith cyd-gadeiryddion Cyngor Cynghorol Cymru ar Arloesi, sydd newydd ei greu.  Roedd y Cyngor yn cynnwys cynrychiolwyr o’r Llywodraeth, Addysg Uwch a Busnes.  Ceisiodd y Pwyllgor fonitro eu cynnydd o ran cyflwyno amcanion Arloesi Cymru - strategaeth arloesi Llywodraeth Cymru.  Gofynnodd y Pwyllgor hefyd am esboniad cliriach o’u rôl yn cynghori Llywodraeth Cymru ynghylch ystod eang o faterion arloesi er mwyn helpu i dyfu a chynnal economi Cymru a gwella cyfoeth a lles pobl Cymru.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 26/10/2015