P-04-647 Newid yr Oedran y mae’n Rhaid Talu am Docyn Oedolyn o 16 i 18.

P-04-647 Newid yr Oedran y mae’n Rhaid Talu am Docyn Oedolyn o 16 i 18.

Nid yw pobl o dan 18 oed yn cael eu hystyried yn oedolion. Mae’n pris tocyn oedolyn Arriva yn gywilyddus i bobl 16-17 oed. Mae’n costio £ 2.60 am docyn un ffordd i Gaerdydd o bellter o ddau safle bws. Fel arfer byddai plant 16-17 oed yn gofyn i’w rhieni am arian ar gyfer tocyn trên, bws ac ati felly pam y dylem gael ein gorfodi i dalu mwy os ydym yn dal yn dibynnu ar ein rhieni i fenthyg arian i ni? Ni allwn wneud pethau eraill fel gyrru, yfed a phleidleisio felly pam y dylem dalu pris uwch am docynnau? Rwy’n gofyn i bobl i lofnodi’r ddeiseb hon i godi’r oedran y mae’n rhaid talu am docynnau oedolion gan mai 18 yw oedran oedolyn mewn gwirionedd.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Yn ôl confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau’r plentyn, mae’r gyfraith ryngwladol yn ei gwneud yn ofynnol i’r llywodraeth weithredu er lles gorau’r plentyn, a gaiff ei ddiffinio fel unrhyw un o dan 18 oed..

 

Prif ddeisebydd: Harry Jacob Wood

Ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf:

Nifer y deisebwyr: 50  llofnod ar lein

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 25/06/2015