P-04-644 Dyfodol Addysg Bellach
Rydym yn nodi penderfyniad Llywodraeth Cymru i dorri £26
miliwn o'r cyllid ar gyfer Addysg Bellach yn y flwyddyn 2015/16 ac yn cydnabod
bod y toriad o 8 y cant i gyllideb Cymru, a gyflwynwyd gan San Steffan, wedi creu
heriau ariannol i Gymru. Fodd bynnag, nid ydym yn deall penderfyniadau
Llywodraeth Cymru, yn dilyn hynny, i ddyrannu'r arian o San Steffan mewn ffordd
a fydd yn arwain at galedi mawr i aelod allweddol o'r 'Teulu Addysg' yng
Nghymru.
Mae colegau wedi ymdopi'n rhagorol â sawl blwyddyn yn
olynol o doriadau cyllid ac ni allwn weld sut y gallant barhau i gyflawni'r
cylch gwaith a ddisgwylir gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn nodi polisi
Llywodraeth Cymru i ddibynnu'n fwy ar gyfraniadau cyflogwyr er mwyn ariannu
hyfforddiant cyflogeion, ond nid ydym wedi ein hargyhoeddi y bydd hynny'n
ddigon i lenwi'r bwlch yn sgil toriadau'r Llywodraeth.
At hynny, bydd y toriad o 50% i gyllid cyrsiau rhan-amser
yn gwneud difrod sylweddol i ddarpariaeth addysg bellach gan adael miloedd o
oedolion heb fynediad at gyfleoedd i wella eu haddysg neu ailhyfforddi. Bydd
hefyd yn peryglu cannoedd o swyddi addysg bellach.
Mae colegau addysg bellach yng Nghymru wedi cydweithio â
Llywodraeth Cymru yn sgil toriadau cyllid blaenorol a chyfres o fentrau uno,
ond maent bellach wedi cyrraedd pen eu tennyn.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â rhoi'r
toriadau hyn ar waith ac i fuddsoddi'n briodol mewn cyfleoedd dysgu gydol oes i
bawb.
Gwybodaeth
ychwanegol
Mae Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU) Cymru yn pryderu:
* Y bydd cyflogwyr
yn amharod i lenwi’r bwlch a adawyd yn sgîl tynnu cyllid Llywodraeth Cymru,
neu’n methu â llenwi’r bwlch.
* Bydd oedolion yn
cael eu cyfyngu i hyfforddiant a gaiff ei ystyried yn addas gan gyflogwyr.
* Bydd oedolion sydd mewn swyddi anfoddhaol sy’n talu
cyflog isel yn methu â chael mynediad at yr addysg y mae ei hangen arnynt i
wella eu cyfleoedd gwaith yn rhywle arall.
* Bydd toriadau o ran cyllid yn cyfyngu’n ddifrifol ar y
dewisiadau sydd ar gael i oedolion.
* Dilëeir y cyfleoedd i wella eu cyfleoedd bywyd ar gyfer
llawer o oedolion a’u teuluoedd, ac mae hynny’n wrthgynhyrchiol o ran mynd i’r
afael â threchu tlodi a gwella’r economi yng Nghymru.
* Effeithir yn niweidiol ar ansawdd y ddarpariaeth sydd
ar ôl, oherwydd bydd llai o staff, bydd maint y dosbarthiadau’n fwy a bydd llai
o amser i gynnal y cyrsiau.
Prif
ddeisebydd: UCU Wales
Ystyriwyd
gan y Pwyllgor am y tro cyntaf: 14 Gorffennaf 2015
Nifer
y deisebwyr: 2,047
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 25/06/2015