Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai
Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai
Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol
Cymru ei adroddiad, sef Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai ym mis
Mawrth 2011. Canfu fod gwasanaethau arlwyo mewn ysbytai yng Nghymru wedi gwella
ers 2002, ond bod angen gwneud mwy i wella gofal maethol ar gyfer cleifion mewn
ysbytai.
Cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
ymchwiliad i'r mater hwn. Roedd y Pwyllgor yn falch o weld bod gwelliannau wedi'u
gwneud ers i wasanaethau arlwyo ysbytai fod yn destun archwiliad perfformiad
ddiwethaf yn 2002. Roedd y Pwyllgor yn siomedig bod amrywiaeth eang yng
nghostau, gwaith cynllunio a'r ddarpariaeth o wasanaethau arlwyo ledled
sefydliadau'r GIG yng Nghymru o hyd, yn arbennig pan fo Llywodraeth Cymru yn
derbyn pwysigrwydd maeth da yn cefnogi gwellhad cleifion yn ei hamcanion
polisi. Mae'r Pwyllgor yn gobeithio y bydd y gostyngiad yn nifer y sefydliadau
GIG yng Nghymru yn caniatáu ar gyfer cyfnewid mwy effeithiol o arfer da sydd
yna'n arwain at ddull mwy safonol o ddarparu'r elfen hanfodol hon o ofal mewn
ysbyty.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 20/05/2013
Dogfennau
- Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Chwefror 2012
- Ymateb Llywodraeth Cymru - Mawrth 2012
- Gwaith monitro a wnaed gan Pwyllgor Cyfrifion Cyhoeddus y Pumed Cynulliad
- Llythyr gan Dr Andrew Goodall - 10 Hyfref 2016 PDF 617 KB