P-04-621 Cadw’r Uned Famolaeth dan Arweiniad Ymgynghorwyr yn Ysbyty Glan Clwyd ar Agor
P-04-621 Cadw’r Uned Famolaeth dan Arweiniad Ymgynghorwyr yn Ysbyty Glan Clwyd ar Agor
Yr ydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn gofyn i Fwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr roi’r gorau i gau’r Uned Famolaeth dan arweiniad
Ymgynghorwyr yn Ysbyty Glan Clwyd. Credwn y bydd cau’r uned yn niweidio lles merched beichiog a’u teuluoedd,
ac y bydd yn peryglu bywydau. Nid ydym yn credu ei fod yn iawn nac yn deg i gleifion orfod teithio hyd
at 30 milltir am driniaeth, yn enwedig pan fydd angen triniaeth ar frys. Credwn y bydd y pwysau ychwanegol ar staff Ysbyty Maelor
ac Ysbyty Gwynedd yn niweidio’r gwasanaethau mamolaeth yn yr ysbytai hynny. Gofynnwn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
ystyried opsiynau eraill (fel cau’r uned i driniaethau dewisol) a chadw
ymgynghorwyr yn Ysbyty Glan Clwyd ar gyfer diogelwch merched beichiog.
Prif
ddeisebydd: Rebecca Roberts
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:
Nifer
y llofnodion: 562 ar lein
Yn ei gyfarfod ar 17/01/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan
y deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb gan fod y deisebydd bellach wedi
cadarnhau, gan na chyflwynwyd y newidiadau arfaethedig y rhoddwyd sylw iddynt
yn y ddeiseb, ei bod yn fodlon bod canlyniad derbyniol wedi'i sicrhau ar y
mater.
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 12/03/2015