P-04-626 Israddio Ffordd yr A487 drwy Penparcau, Trefechan a chanol tref Aberystwyth
P-04-626 Israddio Ffordd yr A487 drwy Penparcau, Trefechan a chanol tref Aberystwyth
Rydym yn galw ar
Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gymryd pob cam anghenrheidiol i ddechrau
israddio ffordd yr A487 (dileu ei statws fel cefnffordd) ar ddarn penodol o'r
ffordd sy'n teithio drwy gymunedau preswyl a threfol, sef Penparcau, Trefechan
a chanol tref Aberystwyth. Byddai gwneud hyn yn lleihau tagfeydd traffig ac yn
gwella diogelwch y ffordd yn y cymunedau hyn ac yng nghanol y dref ac, o
ganlyniad, byddai'n hwyluso manteision cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd
ehangach, a manteision o ran iechyd a lles, mewn ardal y mae Llywodraeth Cymru
eisoes wedi nodi bod angen buddsoddiad a chymorth sylweddol i'w hadfywio.
Gwybodaeth ychwanegol
Mae Fforwm Cymunedol
Penparcau, sef partneriaeth ddatblygu gymunedol sy'n sicrhau llais cryf i
gymuned Penparcau, wrthi'n ymgyrchu i ddileu statws y darn o ffordd yr A487
sy'n teithio drwy Penparcau, Trefechan a chanol tref Aberystwyth fel
cefnffordd. Byddai hyn yn sicrhau mwy o atebolrwydd lleol ac yn ei gwneud yn
haws gwneud gwelliannau a gosod mesurau tawelu traffig, a fyddai'n hyrwyddo
ffordd ac amgylchedd diogelach, ac yn annog gweithgareddau amgen fel beicio a
cherdded. Ar hyn o bryd, mae cefnffordd
yr A487 yn teithio ar hyd y Stryd Fawr (Great Darkgate Street), sef prif stryd
siopa canol tref Aberystwyth, sy'n rhan o'r Ardal Adfywio Strategol a noddir
gan Lywodraeth Cymru.
Sefydliad: Penparcau Community Forum
Prif
ddeisebydd: Dylan Jones
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:
Nifer
y llofnodion:
65 llofnod
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 23/03/2015