Cronfa Byw'n Annibynnol
Cronfa Byw'n Annibynnol
Cyhoeddodd Llywodraeth
Cymru ymgynghoriad ar 3 Hydref i geisio barn am y trefniadau posibl i helpu’r
rhai oedd yn cael arian gan y Gronfa Byw’n Annibynnol yng Nghymru pan gaeodd
Llywodraeth y DU y Gronfa ar 30 Mehefin 2015. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 23
Rhagfyr 2014. Cewch ragor o wybodaeth am ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ei gwefan. Cafodd Pwyllgor
Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad Cenedlaethol gyflwyniad ffeithiol
gan swyddogion Llywodraeth Cymru am yr ymgynghoriad ar 21
Ionawr 2015.
Casglu tystiolaeth
Ystyriodd y Pwyllgor yr
ymateb (Saesneg yn unig) ar y cyd gan Gymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru ar Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (PDF,
237 KB) i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru.
Yn ystod cyfarfod y
Pwyllgor ar 21 Ionawr, cytunodd swyddogion Llywodraeth Cymru i ddarparu
gwybodaeth ychwanegol i’r Pwyllgor. Cafodd y Pwyllgor ymateb
(PDF, 46 KB) (Saesneg yn unig) gan swyddogion Llywodraeth Cymru ar 29 Ionawr
2015.
Llythyr y Pwyllgor
Ysgrifennodd
(PDF, 239 KB) y Pwyllgor at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 6
Chwefror 2015. Cafodd y Pwyllgor ymateb
(PDF, 124 KB) i’w lythyr ym mis Mawrth 2015.
Math o fusnes: Arall
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 13/01/2015
Dogfennau