P-04- 614 Cefnogi Gwasanaeth Dosbarth Cyntaf Arriva Trains Cymru
P-04- 614 Cefnogi Gwasanaeth Dosbarth Cyntaf Arriva Trains Cymru
Credir y bydd Trenau Arriva Cymru yn cyhoeddi cyn bo hir
eu bwriad i ddod â'u gwasanaeth dosbarth cyntaf rhwng Caergybi a Chaerdydd i
ben. Mae'r gwasanaeth hwn yn rhan o'u gwasanaeth 'Premier', sy'n rhedeg bob
diwrnod gwaith.
Mae'n debyg mai ymateb fydd hyn i benderfyniad
Llywodraeth Cymru i roi'r gorau i ariannu'r gwasanaeth hwn ddechrau 2015.
Mae'r ddeiseb hon yn annog Llywodraeth Cymru i
ailystyried eu penderfyniad i roi'r gorau i ariannu'r gwasanaeth gwerthfawr a
phoblogaidd hwn, neu o leiaf i annog Trenau Arriva Cymru i barhau â'r
gwasanaeth cystal ag y gallant drwy ddulliau eraill.
Gwybodaeth
Ychwanogol
Y gwasanaeth dosbarth cyntaf hwn gan Trenau Arriva Cymru
(neu wasanaeth Gerallt Gymro, fel y caiff ei alw hefyd) yw un o'r ychydig
wasanaethau rheolaidd ar rwydwaith rheilffyrdd Prydain sy'n parhau i gynnig
prydau bwyd o safon.
Byddai'n drueni mawr colli'r gwasanaeth hwn, nid yn unig
o safbwynt y teithwyr, ond hefyd o safbwynt y staff a'r criw ar y trên sydd
wedi gweithio mor galed i sicrhau bod teithio ar y trên hwn yn brofiad mor
werth chweil.
Prif
ddeisebydd: Gareth Peate
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:
Nifer
y llofnodion: 54
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/01/2015
Dogfennau