Ymchwiliad i Dlodi yng Nghymru: tlodi mewn gwaith
Ymchwiliad i Dlodi yng Nghymru: tlodi mewn gwaith
Cynhaliodd y Pwyllgor
Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ymchwiliad i dlodi
yng Nghymru. Rhannwyd yr ymchwiliad yn bedair elfen, a phob un ohonynt yn
canolbwyntio ar un mater penodol. Roedd pob elfen yn annibynnol, gyda chylch gorchwyl
penodol. Gyda'i gilydd, fodd bynnag, roedd yr elfennau hyn yn creu un darn o
waith yn ymwneud â'r maes hwn.
Ni chafodd y Pwyllgor gyfle i gynnal ymchwiliad i’r maes
hwn yn yr amser a oedd ar gael cyn diwedd y Pedwerydd Cynulliad.
Roedd y Pwyllgor wedi cytuno ar y cylch gorchwyl a
ganlyn.
Trafod:
- tueddiadau a ffactorau sy’n cyfrannu at lefel uchel tlodi mewn
gwaith yng Nghymru;
- y cyflog byw;
- cynhwysiant ariannol a dulliau ataliol o drechu tlodi.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/12/2014