Ymchwiliad i Dlodi yng Nghymru: dulliau o drechu tlodi yn y gymuned
Ymchwiliad i Dlodi yng Nghymru: dulliau o drechu tlodi yn y gymuned
Cynhaliodd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a
Llywodraeth Leol ymchwiliad i dlodi yng Nghymru. Rhannwyd yr
ymchwiliad yn bedair elfen, a phob un ohonynt yn canolbwyntio ar un mater
penodol. Roedd pob elfen yn annibynnol, gyda chylch gorchwyl penodol. Gyda'i
gilydd, fodd bynnag, roedd yr elfennau hyn yn creu un darn o waith yn ymwneud
â'r maes hwn.
Dulliau o drechu tlodi yn y gymuned
Y cylch gorchwyl oedd trafod:
- cysondeb mentrau gwrthdlodi mewn gwahanol ardaloedd;
- pa mor effeithiol yw rhaglenni gwrthdlodi sy’n canolbwyntio ar
ardaloedd penodol fel Cymunedau yn Gyntaf;
- hynt yr argymhellion a wnaed gan gyn Bwyllgor Datblygu Gwledig y
Cynulliad yn ei adroddiad ‘Tlodi ac amddifadedd yn y Gymru wledig’ yn
2008.
Tystiolaeth
Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth
am y testun yma.
Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law, ac yna
ysgrifennodd
at y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi yn gofyn iddi
fynd i’r afael â nifer o bwyntiau a godwyd yn y
dystiolaeth honno. Cyhoeddwyd
ei hymateb.
Roedd y Gweinidog yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor
ar 27
Ionawr 2016 i drafod y dystiolaeth a'i
hymateb yn fwy manwl.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/12/2014
Dogfennau
Ymgynghoriadau
- Ymchwiliad i Dlodi yng Nghymru: dulliau o drechu tlodi yn y gymuned (Wedi ei gyflawni)