P-04-610 Gwrthdroi’r Toriadau i Gronfa Arian Wrth Gefn Prifysgolion
P-04-610 Gwrthdroi’r Toriadau i Gronfa Arian Wrth Gefn Prifysgolion
Mae’r gronfa galedi a roddir i Brifysgolion gan
Lywodraeth Cymru, sef y Gronfa Arian Wrth Gefn, wedi cael ei thorri ar gyfer
2014/15. Rydym yn credu bod hwn yn benderfyniad niweidiol ac rydym yn galw ar
Lywodraeth Cymru i wrthdroi’r toriadau ar unwaith. Roedd y gronfa ariannol hon
yn darparu cymorth ariannol i filoedd o fyfyrwyr oedd yn cael eu hunain mewn
trafferthion ariannol yn ystod y flwyddyn, y rheiny oedd heb unrhyw fodd arall
o gynnal eu hunain. Heb y gronfa hon, ni fydd myfyrwyr yn gallu fforddio astudio,
gan gadarnhau’r anghydraddoldeb cymdeithasol yn system addysg Cymru. Mae’r
cyhoeddiad fod y Gronfa i gael ei chwtogi hefyd yn torri ymrwymiad a wnaed gan
Aelodau’r Cynulliad i fyfyrwyr yn 2011, lle bu iddynt arwyddo addewid i UCM
Cymru na fyddent yn cwtogi ar y Gronfa. Rydym ni, sydd wedi arwyddo isod,
eisiau i Lywodraeth Cymru wybod na fyddwn yn derbyn addewidion wedi eu torri a
chwtogi pellach ar ein system addysg.
Gwybodaeth ychwanegol:
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â pham fod UCM Cymru yn
galw am ail-gyflwyno’r gronfa arian wrth gefn, ewch i:
http://www.nusconnect.org.uk/news/article/ucmcymru/Myfyrwyr-yn-synnu-ar-doriad-Llywodraeth-Cymru-i-gronfa-argyfwng-prifysgolion/
Dyma’r ymgeiswyr ar gyfer y Cynulliad a arwyddodd addewid
Mynediad i Bobman UCM Cymru yn201:
http://www.nusconnect.org.uk/asset/News/6156/Cefnogwyr-Supporters.pdf
Prif ddeisebydd:
NUS Wales
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 9 Rhagfyr 2014
Nifer y llofnodion:
134
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/12/2014