P-04-593 Rhoi cyngor i ysgolion ar ymweliadau â Noah’s Ark Zoo Farm

P-04-593 Rhoi cyngor i ysgolion ar ymweliadau â Noah’s Ark Zoo Farm

Gofynnwn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau yn Llywodraeth Cymru adolygu pa mor addas yw Noah’s Ark Zoo Farm ar gyfer ymweliadau gan ysgolion o Gymru. Yn ein barn ni, mae’r sŵ yn anaddas oherwydd:

 

1. Mae’n tanseilio’r ddealltwriaeth o wyddoniaeth ac yn gwrth-ddweud y cwricwlwm cenedlaethol. 2. Cafodd y sŵ ei diarddel o gorff y diwydiant sŵau, BIAZA, yn 2009.

Mae mynd ar dripiau ysgol yn rhan bwysig o broses ddysgu ein plant, gan eu helpu i gael profiad ymarferol o’r byd o’u cwmpas. Mae athrawon a rhieni yn gwerthfawrogi hyn, ac yn rhoi llawer o amser ac ymdrech i sicrhau bod y tripiau a drefnir ganddynt yn cefnogi proses ddysgu’r plant, a’u bod yn ddiogel. Er mwyn gwneud hyn, maent yn dibynnu ar ganllawiau a gwybodaeth. Gofynnwn ichi ymchwilio i Noah’s Ark Zoo Farm ar unwaith a sicrhau bod pob ysgol yn ymwybodol o ganfyddiadau’r ymchwiliad.

 

Gwybodaeth ychwanegol

 

1 The Department for Education 2011 - Free Schools FAQs – C

urriculum:

“We would expect to see evolution and its foundation topics fully included in any science curriculum. We do not expect creationism, intelligent design and similar ideas to be taught as valid scientific theories in any state funded school” http://www.education.gov.uk/a0075656/free-schools-faqs-curriculum#faq5;

https://humanism.org.uk/2014/02/04/alice-roberts-bha-complain-michael-gove-noahs-ark-zoo-farms-quality-badge-breaching-creationism-policy/;

 

http://www.theguardian.com/world/2013/dec/08/wont-go-back-to-creationist-zoo-bristol

2 BIAZA (2009):

‘Council believes that the behaviour of NAZF has brought the association into disrepute’ ™http://news.bbc.co.uk/1/hi/england/somerset/8391779.stm

 

 

Prif ddeisebydd     Jane Henderson 

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 23 Medi 2014

 

Nifer y llofnodion:  220 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 17/09/2014