P-04-589 Lleihau Nifer y Cynghorwyr ac Aelodau Gweithredol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog
Llywodraeth Cymru i roi cyfarwyddyd i’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i
adolygu nifer y Cynghorwyr ac Aelodau Gweithredol yng Nghyngor Bwrdeistref
Sirol Blaenau Gwent gyda’r bwriad o leihau eu niferoedd.
Gwybodaeth
ychwanegol:
Mae gan Flaenau Gwent mwy o Gynghorwyr y pen o’r
boblogaeth a mwy o Aelodau Gweithredol na Chynghorau cyfagos. Cyflwynodd
Aelodau Annibynnol y cyngor gynnig i leihau nifer yr aelodau gweithredol i 6 neu
7. Gwrthododd y cyngor, o dan arweiniad Llafur, y cynnig hwn. Gallai’r arbedion
hyn ailagor y toiledau lleol. Mae gan Flaenau Gwent 42 o gynghorwyr, 10 o
aelodau gweithredol a phoblogaeth o 69,300, gan olygu bod 1 cynghorydd i bob
1,611 o bobl. Mae gan Ferthyr Tudful 33 o gynghorwyr, 7 o aelodau gweithredol a
phoblogaeth o 58,800, gan olygu bod 1 cynghorydd i bob 1,781 o bobl. Mae gan
Gaerffili 72 o gynghorwyr, 10 o aelodau gweithredol a phoblogaeth o 178,800,
gan olygu bod 1 cynghorydd i bob 2,384 o bobl.
Mae gan bob Cynghorydd ym Mlaenau Gwent y gyfradd isaf
yng Nghymru o ran nifer y cynghorwyr y pen o’r boblogaeth. Mae Cyngor Blaenau
Gwent wedi diswyddo staff ym mhob rhan o’r cyngor ond nid yw’n barod i leihau
nifer y cynghorwyr er ei fod yn amlwg bod ganddo fwy ohonynt nag sydd angen. A
all Llywodraeth Cymru ymchwilio i’r mater hwn a gorfodi’r cyngor i leihau ei
niferoedd er mwyn arbed arian a gwasanaethau ym Mlaenau Gwent?
Prif
ddeisebydd Julian price
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 23 Medi 2014
Nifer
y llofnodion: 34
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 17/09/2014