P-04-586 Holl staff GIG Cymru i gael eu talu ar y gyfradd Cyflog Byw o £7.65 yr awr o leiaf
P-04-586 Holl staff GIG Cymru i gael eu talu ar y gyfradd Cyflog Byw o £7.65 yr awr o leiaf
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gydnabod
y gwaith hanfodol a wneir gan staff sy’n gweithio i’r GIG yng Nghymru. Rydym
hefyd yn annog Llywodraeth Cymru i weithredu’r argymhelliad a wnaed gan gorff
adolygu cyflogau’r GIG, a sicrhau bod holl staff GIG Cymru yn cael eu talu ar y
gyfradd Cyflog Byw o £7.65 yr awr o leiaf.
Gwybodaeth
ychwanegol:
Mae staff y GIG yn
gwneud rhai o’r swyddi anoddaf yn y byd - arbed bywydau, gofalu am bobl, a’n helpu
i gadw’n iach. Mae’n hanfodol bod staff y GIG yn cael eu gwobrwyo’n briodol am
y gwaith y maent yn ei wneud gan eu bod yn ddi-os yn ei haeddu. Mae llywodraeth
y DU wedi penderfynu peidio â gweithredu’r argymhelliad a wnaed gan y Corff
Adolygu Cyflogau (PRB) ac mae UNSAIN yn credu bod hyn yn sarhad i staff yn
Lloegr. Rydym yn credu y dylai’r Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru
wneud popeth o fewn eu gallu i sefyll dros weithwyr y GIG yng Nghymru, ac mae’n
rhaid i hynny gynnwys dyfarnu argymhelliad y PRB i staff a sicrhau eu bod yn
cael eu talu ar y gyfradd Cyflog Byw fesul awr o leiaf.
Prif
ddeisebydd UNISON
Cymru/Wales
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 23 Medi 2014
Nifer
y llofnodion: 174
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/09/2014