P-04-583 Gwahardd Tyfu a Gwerthu unrhyw Hadau / Bwydydd a Phorthiant Anifeiliaid / Pysgod GM yng Nghymru
P-04-583 Gwahardd Tyfu a Gwerthu unrhyw Hadau / Bwydydd a Phorthiant Anifeiliaid / Pysgod GM yng Nghymru
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog
Llywodraeth Cymru i sefydlu, cyn belled ag y mae hynny’n gyson â chyfraith yr
UE, Ddeddf sy’n gwahardd unrhyw fwyd, planhigion a hadau GM rhag cael eu tyfu
a’u gwerthu yng Nghymru, yn ogystal ag organebau a addaswyd yn enetig a
ddefnyddir mewn unrhyw borthiant anifeiliaid, anifeiliaid hela a physgod. Mae
sofraniaeth bwyd ac iechyd yn fater hollbwysig i ddyfodol Cymru a’r byd ac
mae’n rhywbeth a fydd yn gwahaniaethu cynhyrchion bwyd o Gymru ymhellach, mewn
ffordd gadarnhaol, yn y farchnad fyd-eang. Fel y dangoswyd gan y gwaith gwych a
wnaed gan GM Free Cymru a gwyddonwyr allweddol fel Irina Ermakova, yr Athro
Vyvyan Howard a Malcolm Hooper, Dr Stanley Ewen, Dr Arpad Pusztai, Manuela
Malatesta a chydweithwyr ym Mhrifysgolion Pavia ac Urbino yn yr Eidal ymhlith
rhai eraill, mae tystiolaeth ddiymwad ar gael erbyn hyn am beryglon cynhenid
bwydydd GM.
Gwybodaeth
ychwanegol:
Dywedodd Dr Brian John o GM Cymru: "Ymddengys fod y
Comisiwn Ewropeaidd yn benderfynol o gyhoeddi un caniatâd GM dadleuol ar ôl y
llall, gan seilio ei benderfyniadau ar waith ymchwil hynod ddewisol a
rhagfarnllyd gan yr ymgeiswyr eu hunain, a chael arweiniad gan awdurdod
diogelwch bwyd Ewropeaidd a ddirmygir ac sydd wedi colli hyder cyrff
anllywodraethol a grwpiau defnyddwyr ledled Ewrop". Mae gwleidyddion yn
hyrwyddo rhinweddau’r cwmnïau biotechnoleg mawr fel Monsanto er gwaethaf
lleisiau cyhoeddus a gwyddonol croes arwyddocaol. Mae codi patent ar natur ac
ymyrryd drwy beirianneg enetig hefyd yn weithred yn erbyn natur ei hun ac yn
codi’r cwestiwn o ran moesoldeb, moeseg, hawliau naturiol a dynol. Mae nifer
gynyddol o wledydd fel Hwngari, Awstria, Bwlgaria, Gwlad Groeg, Japan, y
Swistir, y Basg a Periw, i enwi ond ychydig, bellach yn diarddel y cawr
technoleg gemegol a biolegol Monsanto, ac yn cael gwared ar unrhyw gnydau,
hadau, planhigion a bwydydd GM o’u gwlad.
Prif
ddeisebydd : Cymru Sofren / Sovereign Wales
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 23 Medi 2014
Nifer
y llofnodion: 13
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/09/2014