P-04-582 Newid Mawr ei Angen i’r Rheolau yn ein Hysgolion o ran Llau Pen a Nedd
P-04-582 Newid Mawr ei Angen i’r Rheolau yn ein Hysgolion o ran Llau Pen a Nedd
Mae angen newid y rheolau o ran llau pen mewn ysgolion.
Ar hyn o bryd, ni chaniateir i staff yr ysgol nodi pwy yn y dosbarth y mae llau
pen arnynt—ni ellir dweud wrth rhiant y plentyn sydd â llau pen, hyd yn oed. Yr
unig beth sy’n digwydd yw bod llythyr generig yn cael ei ddosbarthu. Pam na
ellir dweud wrth y rhieini bod llau pen ar eu plentyn, a’i fod yn heintio’r
dosbarth, a gofyn iddynt ei gasglu? Yna, dylai’r plentyn gael ei gadw i ffwrdd
o’r ysgol hyd nes bod aelod o staff yn barnu y gall ddychwelyd, fel sy’n
digwydd mewn rhai ysgolion yn yr Unol Daleithiau! Os bydd plentyn yn chwydu yn
yr ysgol, bydd yn cael ei anfon adref ar unwaith. Mae llau pen yr un mor
heintus ac maent yn achosi’r un faint o ofid i’n plant. Gellir gwneud hyn mewn
modd cynnil a synhwyrol – nid oes rhaid i neb wybod, oni bai fod y rhiant yn
dewis rhannu’r wybodaeth. Nid yw’n ymyrryd â hawliau dynol neb. Os rhywbeth,
byddai’n amddiffyn plant y rhai ohonom sy’n ddiwyd ac yn gofalu amdanynt, ac
felly yn gwario llawer o arian yn trin ein plant yn ofer!
Prif
ddeisebydd : Marnie Hill
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 23 Medi 2014
Nifer
y llofnodion: 31
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/09/2014